Cynllun Traethawd - Rhaid Peidio dawnsio yng Nghaerdydd

?

Cynllun Traethawd:

Cyflwyniad:

-Crynhoi:

 Cerdd ddychanol am y ffordd y mae gwladwrieth neu bobl mewn awdurdod yn creu rheolau i gyfyngu a rheoli ein ffordd o fyw. Yn aml mae'r rheolau yn rhai gwallgof a hollol ddipwrpas, a phwysleisir mae canlyniad hyn yw fod pobl yn torri rheolau er mwyn cael rhyddid.

-Neges / Pwrpas:

  • Ni ddylem dderbyn pob penderfyniad yn ddigwestiwn.
  • Mae na rhai rheolau disynnwyr.
  • Weithiau mae'n angen i ni herio'r drefn.

-Themau:

  • Amser; Amser yw’r thema amlwg yn y gerdd, ond mae dau wahanol fath: amser y cloc sy’n ein caethiwo tu fewn i funudau ac oriau, ac amser breuddwydio, sy’n ein gollwng yn rhydd i fyd y dychymyg. Mae’r ddelwedd o ddawns yn llifo drwy’r dilyniant i gyd, dawnsio’n rhydd o afael rheolau amser a bywyd.

Canol:

- Cynnwys;

  • Pennill un

Mae camerâu cylch cyfyng (CCTV) yr Heddlu Cudd a’r Cyngor yn gwylio pawb trwy’r amser. Mae dawnsio’n cael ei wahardd yng Nghaerdydd ar adegau penodol: rhwng wyth a deg y bore. Rhestrir yr holl lefydd lle na chaiff pobl ddawnsio – na stryd na pharc na heol. Mae’r ‘na’ yn tynnu sylw at y rheolau caeth.

  • Pennill dau

Mae mwy o reolau a chyfyngiadau amser yn cael eu cyflwyno, er enghrafft cyfyngu dawnsio i chwarter awr mewn sgidiau coch rhwng deg ac un ar ddeg. Mae’r bardd yn dweud hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod rhai rheolau’n hollol wirion a bod gormod o waharddiadau ar bawb rhag gwneud cymaint o bethau. Mae’n pwysleisio’r gwaharddiad ar ddawnsio i wrthgyferbynnu gyda’r syniad sydd ganddo drwy weddill y dilyniant o ddawnsio’n rhydd tu allan i ffiniau amser a rheolau.

  • Pennill tri

Ar ddiwedd y gerdd pan fo’r camerâu wedi…

Comments

No comments have yet been made