Cynllun Traethawd - Tai Unnos

?

Cynllun Traethawd:

Cyflwyniad:

- Crynhoi:

  • Mae dwy ran amlwg i Tai Unnos – sôn am y gorffennol mae’r rhan gyntaf ac mae’r ail ran yn sôn am y presennol.

- Neges:

  • Yn y gerdd, neges Iwan Llwyd i’r darllenydd yw peidio anwybyddu sefyllfa pobl ddigartref heddiw. Trwy osod traddodiad y tai unnos ochr yn ochr â darlun trist digartrefedd cyfoes, mae’n tynnu ein sylw at y broblem oesol hon - digartrefedd.

- Themau:

  • Etifeddiaeth
  • Digartrefedd 

Canol:

- Cynnwys:

  • Ddoe

Beth yw tai unnos?

Ganrifoedd yn ôl, roedd yn arferiad yng Nghymru i adael i bâr ifanc tlawd a oedd newydd briodi i adeiladu cartref iddynt eu hunain ar dir comin, ond roedd yn rhaid cwblhau’r adeiladu “rhwng gwyll a gwawr.” Byddai’r pentref cyfan yn cynorthwyo’r pâr ifanc â’r gwaith. Yn ôl yr hanes, roedd yn rhaid dechrau adeiladu’r tŷ pan fyddai’r haul yn machlud yn y nos a phetai mwg yn dod o simnai’r tŷ erbyn i’r haul wawrio'r bore canlynol, ni fyddai hawl gan y landlordiaid i dynnu’r tŷ i lawr a byddai modd i’r pâr hawlio perchnogaeth ar y darn o dir. Tai syml oedd y rhain, wedi’u hadeiladu â cherrig, pridd a bôn braich.

Mae dwy…

Comments

No comments have yet been made