Cynllun Traethawd - Y Coed

?

Cynllun Traethawd:

Cyflwyniad:

- Crynhoi:

  • Mae’r gerdd hon yn rhybuddio am erchyllterau rhyfel. Rydyn ni’n cael clywed llawer iawn o rifau sy’n tynnu ein sylw at faint y golled. Mae’r swm chwe miliwn yn cael ei ailadrodd yn y gerdd er mwyn serio pa mor anferth oedd y gyflafan ar feddwl y darllenydd.

- Neges: 

  • Dwy brif neges y gerdd yw cofio am y rhai a fu farw yn enw rhyfel a sicrhau na fyddwn ni’n dechrau rhyfel arall. 

- Themau: 

  • Rhyfel
  • Trais
  • Heddwch

Canol: 

- Cynnwys: (AR TAFLEN ARALL) + Arddull: 

  • Y rhigwm cyntaf

Yn y rhigwm cyntaf, mae berfau amhersonol fel plannwyd a llosgwyd yn cael eu defnyddio. Maen nhw'n cyfrannu at naws ffurfiol y gerdd ac yn awgrymu pa mor amhersonol oedd y weithred o blannu’r coed.

Gyda’r geiriau heb fynwent na bedd nac wrn mae Gwenallt yn rhestru'r hyn na chafodd yr Iddewon. Fel arfer mae mynwent ac wrn yn bethau sy’n dangos parch at y meirw ond o’u rhestru, mae’n pwysleisio diffyg parch at yr Iddewon a gollodd eu bywydau.

Chwithig gweled y cangau fel cofgolofnau byw. Yn y gyffelybiaeth hon mae cyferbyniad rhwng gwrthrych marw a statig fel cofgolofn…

Comments

No comments have yet been made