Cynllun Traethawd - Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor

?

Cynllun Traethawd:

Cyflwyniad:

- Crynhoi:

  • Yn y gerdd hon mae’r bardd, Rhys Iorwerth, yn gweld merch yn y clwb ac mae hi’n tynnu ei lygad yn syth.

- Neges:

  • Mae’r bardd yn dweud bod rhai pethau mewn bywyd yn cael argraff barhaol arnon ni. Er nad oes dim byd mawr yn digwydd, eto i gyd mae’r bardd yn trysori’r darlun o’r ferch hon yn ei gof.
  • Weithiau rydym yn dal yn ôl yn rhy hir ac yn peidio gweithredu oherwydd diffyg hyder. Weithiau, er nad ydyn ni yn adnabod rhywun yn iawn, rydym yn llunio stori amdanynt yn ein dychymyg gan eu cadw nhw'n fyw yn ein breuddwydion.

- Themau:

  • Grym dychymyg
  • Tuedd pobl i freuddwydio

Mae’r bardd yn breuddwydio am y ferch ac yn dychmygu sut gymeriad sydd ganddi. Mae’r defnydd o eiriau fel ‘meddwol’, ‘gwyrth’, ‘breuddwydiol’ a ‘swyn’ yn pwysleisio hyn.

Thema arall amlwg yw gallu arbennig y cof dynol i gadw a chofnodi popeth sy’n creu argraff arbennig. Os ydyn ni'n dod i'r casgliad na ddaeth dim o’r cyfarfyddiad hwn yn y pen draw, gallwn ddweud bod swildod a diffyg hyder yn thema arall yn y gerdd.

Canol:

- Cynnwys: 

  • Englyn un

Hel meddyliau y mae’r bardd am adeg aeafau’n ôl pan welodd ferch a wnaeth argraff arno am ei bod yn ddifaddau o feddwol. Ystyr difaddau yw ‘yn bendant’ neu ‘heb os nac oni bai’. Nid meddw yw’r ferch ond meddwol, sef ei bod hi’n cael effaith fel alcohol arno – mae’r bardd yn meddwi dim ond wrth edrych arni.

  • Englyn dau

Mae’r bardd wedi meddwi ar harddwch y ferch cyn iddo ddechrau yfed. Nawr mae’n archebu peint ac yn edrych arni trwy’r mwg sigâr. Mae hyn yn dyddio’r gerdd i’r adeg cyn bod ysmygu wedi’i wahardd mewn llefydd cyhoeddus ac yn…

Comments

No comments have yet been made