Cynllun Trethawd - Y Sbectol Hud

?

Cynllun Traethawd:

Cyflwyniad:

- Crynhoi:

  • Mewn byd lle mae prysurdeb a thechnoleg yn ein dallu i’r swyn a’r harddwch naturiol sydd o’n cwmpas, mae’r bardd yn ein cymell i ddefnyddio ein dychymyg ac i edrych yn iawn ar bethau yn hytrach na dim ond eu gweld.
  •  Mae gweld hud ym mhopeth o fewn ein cyrraedd ni i gyd, dim ond i ni ddefnyddio ein dychymyg.

- Neges:

  • Neges y gerdd yw y dylen ni ddefnyddio ein dychymyg yn amlach yn ein bywydau bob dydd er mwyn gweld y fyd lle mwy hardd i fyw.
  • Mae’r bardd yn ein cyfarch fel ffrindiau ac nid yw’n ei gosod ei hun uwchlaw pawb arall am ei bod hi’n fardd.

- Themau:

  • Rhyfeddod byd natur.
  • Cymryd seibiant o brysurdeb bywyd bob dydd.
  • Defnyddio dychymyg.
  • Gwerthfawrogi ein hamgylchedd.

Canol:

- Cynnwys:

Yn llinellau agoriadol y gerdd-

Mae’r bardd Mererid Hopwood yn dweud na allwn weld popeth drwy’r amser dim ond yn ein dychymyg. Ni allwn weld y sêr yng ngolau dydd ond gallwn eu dychmygu. Ni allwn weld y lleuad wrth i’r haul fachlud na gweld y bryniau drwy niwl. Mae’r coed weithiau ynghudd o dan eira ac nid yw blodau ar eu gorau yn y glaw. Ond wrth i ni ddefnyddio ein dychymyg, cawn olwg newydd a ffres ar bethau yn yr un ffordd â mae’r bardd yn dychmygu’r dydd yn ddrws sy’n cau’r nos allan – a’r nos ar goll tu ôl i ddrws y dydd – y niwl yn gwisgo’r bryniau, a’r blodau’n crio glaw.

Yn y chwe llinell olaf mae’r bardd yn parhau gyda’r awgrym y dylai’r darllenydd wisgo sbectol hud. Mae’r dôn berswadiol wedi dechrau yn llinell pump gyda’r bardd yn cyfarch y darllenydd yn yr ail berson, sef ti. Mae hyn yn ffordd gynnes a chyfeillgar o dynnu’r darllenydd i mewn i’w byd hi: rho bâr o sbecs dychymyg am dy drwyn. Mae’n cyfarch y darllenydd fel fy ffrind sy’n cyfleu agosatrwydd yn syth.

Mae’r ffordd gyfeillgar mae’r bardd yn ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg yn llwyddo i’n perswadio bod edrych trwy’r ‘sbectol’ arbennig hon yn syniad da oherwydd ei bod yn siarad o brofiad ac yn addo i ni…

Comments

No comments have yet been made