Cynllun Traethawd - Eifionydd

?

Cynllun Traethawd:

Cyflwyniad:

- Crynhoi:

  •  Sonir yma am y 'Lôn Goed' a chyffelybir ardal amaethyddol, tawel Eifionnydd gyda'r byd modern, diwydiannol. Mae'n ddihangfa i'r bardd, yng nghwmni cyfaill neu ar ei ben ei hun. Llwybr yw'r Lôn Goed, sy'n ymlwybro trwy ganol cefn gwlad am oddeutu pum milltir.

- Neges:

  • Neges R Williams Parry i ni yw bod byd naturiol yn llawer iawn harddach na’r byd datblygedig y mae’r byd modern yn ymhyfrydu ynddo.

- Themau:

  • Natur
  • Datblygiad Diwydiannol
  • Perthyn

Canol:

- Cynnwys:

  • Pennill un

Mae’r gerdd yn dechrau drwy gymharu dwy ardal, Eifionydd a Bethesda, lle’r oedd y bardd wedi ymgartrefu ar ôl priodi. Dywed fod yna le hardd yn Eifionydd sy’n hollol wahanol i Fethesda lle mae’r ‘Gwaith’ - y chwareli - wedi anharddu’r tir. Sonia yma, mae’n debyg, am chwarel lechi’r Penrhyn lle roedd y chwarelwyr wedi dioddef tlodi mawr tra oedd yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel, yn gwneud elw mawr.

Dioddefodd y gweithwyr lawer yn enw ‘Cynnydd’. Defnyddia’r bardd ‘G’ fawr yn ‘Gwaith’ ac ‘C’ fawr yn ‘Cynnydd’ i gyfleu eironi - mae’r ddau beth yma wedi gwneud yr ardal yn hyll ac wedi achosi tristwch i’r trigolion.

Mae Eifionydd rhwng môr a mynydd sef Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri. Yn wahanol hefyd i waith y chwarel ym Methesda lle mae’r llechi wedi cael eu naddu o’r graig gan greu twll nad oes modd ei gau, mae’r gwanwyn yn cael ei rwygo o’r pridd. Mae’r ‘rhwygo’ yma yn beth da, adeiladol, gan ei fod yn deffro’r ddaear ar ôl y gaeaf a’i pharatoi ar gyfer tyfiant newydd y gwanwyn pêr. Yma yn Eifionydd, bydd cnydau yn tyfu ac mae hynny yn gwrthgyferbynnu â gwacter y ddaear ddiwydiannol lle mae’r gwaith diwydiannol parhaus wedi difetha’r tirlun ar y graig.

  • Pennill dau

Mae’r bardd yn dianc o hwrli-bwrli’r byd a’i brysurdeb i dawelwch Rhos Lan yn Eifionydd. Mae’r ddwy linell agoriadol yn feirniadol o’r byd cyfoes, newydd - y newyddfyd blin - lle mae pawb yn cystadlu yn erbyn ei gilydd tu hwnt i bob rheswm (ymryson ynfyd).

Mae dod i Eifionydd fel camu’n ôl mewn amser i fyd symlach, mwy heddychlon rhwng y ddwy afon - Dwyfor a’r Ddwyfach - lle mae blas y cynfyd / Yn aros fel hen win. Mae’n gyffelybiaeth effeithiol nid yn unig oherwydd bod y lle’n felys a hyfryd fel gwin ond hefyd, fel hen win sydd heb ei gyffwrdd ac wedi cael llonydd i aeddfedu, mae’r lle hwn yn dal i wella. Nid yw wedi…

Comments

No comments have yet been made