Cludiant Mewn Planhigion

BY2

?
  • Created by: Rhian
  • Created on: 09-05-12 14:02

Adeiledd a Dosbarthiad y Sylem

Adeiledd

Llestrau - prif gelloedd dargludol
Traceidiau - cludo dwr ond heb addasu cystal a'r llestrau
Ffibrau - rhoi cynhaliaeth
Parencyma sylem - gweithredu fel meinwe pacio

Lignin wedi dyddodi ar celffuriau cellwlos y llestrau a'r traceidiau st;b gwbeyd nhw'n anathraidd i ddwr a hydoddion felly'n marw. Hefyd yn rhoi cynhaliaeth a chryfder mecanyddol.

Dosbarthiad 

Coesyn - sylem yn diwydd fel rhan o'r sypynnau fasgwlar perifferol sy'n rhoi cynhaliaeth hyblyg ac yn gwrthsefyll straen plygu.
Dail - meinweoedd fasgwlar yn y wythien ganol a'r rhwydwaith o wythiennau sy;'n rhoi nerth hyblyg ac yn gwrthsefyll straen rhwygo.
Gwreiddiau - trefniant canolog yn ddelfrydol ar gyfer gwrthsefyll straen fertigol ac yn helpu angori'r planhigyn. 

1 of 7

Codi Dwr o'r Gwreiddiau

Dwr y cael ei amsugno i'r gwreiddflewyn (AA mawr, nifer o fitocondria, PD isel) gan osmosis i lawr y graddiant crynodiad, gyda PD uchel yn y pridd gan fod y dwr yn cynnwys hydoddiant gwan o sylweddau a PD isel yn y gwagolyn

Apoplast - Dwr yn tryledu i'r cellfur ac yn symud i lawr y graddiant PD nes cyrraedd y Stribed Casparian yn yr endodermis sydd wedi gwneud o swberin ac yn wrthddwr, lle caiff ei ddatgyfeirio i'r symplast/gwagolynnol.

Symplast - dwr yn symud i'r cytoplasm gan osmosis ac yn tryledu o gell i gell trwy'r plasmodesmata i lawr y graddiant PD i'r sylem.

Gwagolynnol - Dwr yn teithio gan osmosis o wagolyn cell i wagolyn cell i lawr graddiant PD.

2 of 7

Cludo Mwynau

Mwynau - symud i'r gwreiddflewyn trwy gludiant actif o'r pridd. Ionau'n symud ar hyd yr apoplast wrth i ddwr cael ei dynnu i fyny'r planhigyn gan y llif trydarthiad. Cyrraedd y swberin yn yr endodermis a cael eu at felly cludo'n weithredol i'r cytoplasm ac yn tryledu neu eu cludo'n weithredol i'r sylem. Hwn yn lleihau PD y sylem gan achosi rhagor o ddwr cael ei dynnu mewn sy'n creu gwasgedd hydrostatig sef gwreiddwasgedd. Codi'r ionau'n weithredol yn caniatau dethol ionau. Nitradau: ffurfio asidau amino. Prinder yn achosi dail melyn a phroblemau tyfiant.

Ffosffadau: cydran o niwcliotidau. Prinder yn achosi tygiant gwreiddiau gwael.

Sylffadau: cydran protein. Prinder achosi dail melyn + datblygiad gwreidd gwael.

Magnesiwm: ffurfio cloroffyl. Prinder achosi clorosis (methu ffotosyntheseisio)

3 of 7

Symudiad Dwr o'r Gwreiddyn i'r Dail

Dwr yn anweddu o arwyned y dail a trydarthiad yn tynnu dwr ar draws y ddeilen ar hyd apoplast, symplast neu gwagolynnol. 

Theori Cydlyniant Tyniant
Trydarthiad yn achosi gwasgedd isel yn y dail sy'n creu grym gwthio ar y colofn dwr (tyniant trydarthol) sy'n achosi rhagor o folecylau dwr cael eu tynnu lan y sylem. Colofn yn cael ei gynnal gan:
- Grymoedd cydlynol rhwng y moleciwlau o ddwr (bondiau H)
- Grymoedd adlynol rhwng moleciwlau dwr a leinin hydroffilig i llestrau. 

Capilaredd - moleciwlau dwr yn dringo i fyny tiwbiau cul trwy weithred capilari oherwydd adlyniad a chydlyniant. Perthnasol mewn planhigion bychan.

4 of 7

Trydarthiad

Proses o golli anwedd dwr o blanhigion. Achosi'r llif trydarthol sy'n cydbwyso codi a cholli dwr. Anwedd yn dianc o'r stomata yn bennaf - cwtigl cwyraidd yn lleihau colledion arwynebol.

Tymheredd - cynydd yn darparu mwy o egni cinetig ar gyfer symud moleciwlau dwr ac yn cyflymu cyfradd anweddu dwr o'r cellfur mesoffyl + cyfradd trydarthiad.
Lleithder - mwyaf llai yw'r aer, mwyaf ei PD felly graddiant PD yn lleihau a'r cyfradd trydarthu yn lleihau.
Symudiad Aer - gwynt yn chwythu aer tirlawn i ffwrdd o'r stomata gan cynyddu'r graddiant PD felly cyfradd trydarthu yn cynyddu.
Golau - ysgogi i'r stomata agor a caniatau cyfnewid nwyon gan cynyddu'r cyfradd.

Potomedr yn mesur cyfradd trydarthiad. Ond yn wir pan yn hollol chwydd dynn.
Gwir - mesur graddfa amsugno dwr.

Rhaid torri coes y planhigyn dan dwr, cadw'r dail yn sych, rhoi haen o vaseline o gwmpas yr offer.

5 of 7

Mesoffytau, Hydroffytau a Seroffytau

Mesoffytau: ffynnu mewn cynefinoedd lle mae cyflenwad ddigonol o ddwr.
Colli llawer o ddwr ond colledion gormodol yn cael ei atal gan y stomata.
Llawer yn colli dail cyn y gaeaf; rhannau awyrol yn crino a marw yn y gaeaf ond organau tanddearol yn goroesi; goroesi'r gaeaf ar ffurff hadau cwsg.

Hydroffytau: tyfu dan neu'n rhannol o dan y dwr.
Braidd dim meinwedoedd cynnal ligninedig gan fod dwr yn cyfrwng cludo; amgylchynu gan dwr felly dim angen meinwe cludiant - sylem heb ddatblygu'n dda; dim llawer o gwtigl; stomata ar arwyneb uchaf; gwagolynnau yn y coesyn sy;n galluogi hynofedd a cronfa nwy.

Seroffytau: byw dan amodau o brinder dwr.
Moresg - dail rheoledig yn lleihau AA trydarthu; stomata suddedig i lleihau graddiant PD; blew i leihau graddiant PD; cwtigl trwchus cwyraidd i lleihau colledion dwr. 
Hacea - meinwe sglerencyma gyda muriau trwchus i cynnal AA ffotosynthesis
Cacti - coes suddlon i storio dwr a dail lleihau i bigau. Cau'r stomata yn y dydd.
Binwydd - dail fel nodwyddau sy'n lleihau'r arwyneb sy'n colli dwr.

6 of 7

Trawsleoliad yn y Ffloem

Trawsleoliad - proses o cludo deunyddiau organig hydawdd megis swcros ac asidau amino. Proses actif sydd angen ATP.

Tiwbiau Hidlo - unig cyfansoddyn sydd wedi addasu ar gyfer llif hydredol. Ffurfio o elfennau hidlo wedi eu gosod ben i ben a'r muriau wedi tyllu a man dyllau.
Cymargelloedd - cystylltu i'r tiwbiau hidlo gan plasmodesmata ac yn cynnwys cytoplasm dwys; cnewyllyn canolog; nifer o fitocondria a dim gwagolyn
Ffilamentau Cytoplasmig - cynnwys protein ac yn ymestyn o un gell i'r llall. 

Damcaniaethau
Rhy gyflym i fod oherwydd trylediad. Rhaid proses acif oherwydd lleihad ocsigen a presenoldeb atalyddion resbiradol yn lleihau'r cyfradd.

Llif Mas - awgrymu llif mas goddefol o swigrau yn y ffloem o'r crynodiad uchel y ffynhonell i'r crynodiad isel yn y suddfan. Ddim yn egluro platiau hidlo, gwahanol hydoddyddion symud gwahanol cyfradd + cyfeiriad; arafu gan atalyddion resb; cymargelloedd a llawer o fitocondria.

Eraill: proses weithredol yn gysylltiedig; gwahanol hydoddyddion yn trawsgludo ar hyd wahanol ffilamentau

7 of 7

Comments

No comments have yet been made

Similar Biology resources:

See all Biology resources »