Arwynebau Resbiradol Arbennigol

?
  • Created by: Liz
  • Created on: 06-03-14 19:16

Manylion System Awyru Pryfed Daearol/Tirol

  • Nid yw'n bosib iddynt tryledu ocsigen ar draws eu corff - oherwydd sgerbwd allanol a chwtigl gwrth ddwr anathraidd (sy'n helpu atal y pryfed rhag colli dwr).
  • Nwyon yn mynd mewn i ac yn gadael y corff trwy SBIRAGLAU.
  • Pob sbiragl wedi'i cwmpasu gan flew sy'n atal colled dwr.
  • Modd cau'r sbiraglau gan falfiau sy'n cael eu rheoli gan gyhyrau bach
  • Nwyon resbiradol yn cael eu cyfnewid rhwng yr amgylchedd a'r celloedd gan y system traceol ac nid gan y gwaed.

MANTEISION

  • Dim angen gwaed neu bigment resbiradol.
  • Nwyon yn tryledu llawer yn gyflymach trwy aer na thrwy hylif.
  • System yn cludo ocsigen yn syth i'r feinwe, megis cyhyrau, ac yn cludo nwyon gwastraff i ffwrdd yn syth. 
1 of 6

Mewnanadlu ac Allanandlu (Pryfed)

  • Abdomen yn ehangu a'r cyfaint yn cynyddu, gwasgedd yn lleihau.
  • Aer yn llifo mewn i sbiraglau'r thoracs.
  • Sbiraglau yn arwain at tracea sef gyfres o diwbiau sy'n rhedeg trwy'r corff.
  • Abdomen yn cyfangu.
  • Aer yn llifo lawr trwy'r system freuannol i'r abdomen.
  • Nwyon gwastraff yn gadael y corff trwy sbiraglau'r abdomen.
2 of 6

Pysgod

  • Dwr yn cynnwys llawer llai o ocsigen nag aer - achosi cyfradd trylediad arafach.
  • Angen i bysgod pasio swm sylweddol o ddwr dros eu arwyneb resbiradol er mwyn derbyn yr ocsigen angenrheidiol.
  • Pysgod yn byw mewn dwr felly nid oes risg iddynt ddihydradu - arwyneb resbiradol yn agored i ddwr ond wedi ei ddiogelu rhag niwed.
  • Pysgod yn actif iawn felly mae angen llawer o ocsigen arnynt.
  • Gallu rhannu pysgod i ddau prif grwp yn ol y defnydd sydd yn gwneud fyny eu sgerbydau:

          PYSGOD CARTILIGAIDD                        a                   PHYSGOD ESGYRNOG

3 of 6

Pysgod Cartiligaidd a Llif Gwaed Paralel

e.e. Siarc

  • Maent yn llai actif na physgod esgyrnog.
  • Sgerbwd wedi'i wneud allan o gartilag.
  • Byw yn y mor.
  • Ar y ddwy ochr tu ol i'r pen, mae 5 HOLLT TAGELL (Gill Clefts) sy'n agor i AGEN TAGELL (Gill Slits).
  • Dwr yn cael ei gymryd mewn i'r geg ac yn cael ei orfodi trwy'r agennau tagellau pan mae llawr y geg yn cael ei godi. 
  • Gwaed yn teithio trwy'r gapilariau tagellau yn yr un cyfeiriad a dwr y mor - dull gymharol aneffeithiol o gyfnewid nwyon.
  • Gwahaniaeth mewn crynodiad ocsigen yn fawr ar y dechrau (mwy o ocsigen yn y dwr nag sydd yn y gwaed.
  • Trylediad yn digwydd OND wrth i'r dwr a'r gwaed llifo gyda'i gilydd mae'r graddiant crynodiad yn lleihau sy'n arafu trylediad.
  • Yn y diwedd, bydd crynodiad yr ocsigen yn hafal ac fydd trylediad yn stopio felly, dim ond tua 50% o'r ocsigen sy'n mynd mewn i'r gwaed.
4 of 6

Pysgod Esgyrnog a Llif Gwrth Gerrynt

  • Sgerbwd mewnol wedi'i wneud o esgyrn.
  • Byw yn nwr y mor a dwr ffres.
  • Mwy o rywogaethau esgyrnog na rhai cartiligaidd.
  • 4 par o dagellau yn y ffaryncs.
  • Pob tagell yn cael eu cynnal gan y BWA TAGELLOG.
  • Un dagell yn cynnwys dau bentwr o blatiau tenau a elwir yn FFILAMENTAU.
  • Ar y ffilamentau mae nifer o BLATIAU TAGELLOG (lamela) sef yr arwyneb cyfnewid nwyon.
  • OPERCWLWM yn diogelu'r tagellau.
  • Gan fod y tagellau yn gorgyffwrdd mae llif y dwr yn cael ei arafu - sicrhau fwy o amser i drylediad nwyon allu digwydd
  • Dwr yn llifo i'r gyfeiriad dirgroes i llif gwaed yng nghapiliriau y PLAT TAGELL.
  • Graddiant crynodiad yn cael ei gynnal ar draws yr holl lamela.
  • Gwaed yn cyfarfod a dwr sydd bob amser gyda crynodiad uwch o ocsigen ynddo na'i hun.
  • Y llif fwyaf effeithiol gan fod mwy o ocsigen yn tryledu i mewn i'r gwaed.
5 of 6

Mecanwaith Awyru mewn Pysgod

I gynyddu effeithlonrwydd mae angen i ddwr cael ei orfodi dros y ffilamentau

 MEWNANADLU

  • Ceg y Pysgodyn yn agor.
  • Cyfaint yn cynyddu tu fewn y ceudod bochaidd.
  • Gwasgedd tu fewn y ceudod bochaidd yn lleihau.
  • Dwr yn llifo mewn.
  • Opercwlwm yn cael ei wasgu yn agos i'r corff - felly ar gau

ALLANADLU

  • Ceg yn cau.
  • Cyfaint yn lleihau - achosi i'r gwasgedd cynyddu.
  • Dwr yn cael ei orfodi dros y tagellau.
  • Dwr yn gadael trwy'r opercwlwm.
6 of 6

Comments

No comments have yet been made

Similar Biology resources:

See all Biology resources »See all Human, animal and plant physiology resources »