Addasu i fywyd Tirol (Yr Ysgyfaint)

?
  • Created by: Liz
  • Created on: 07-03-14 19:36

Amffibiaid

Cynnwys BROGAOD, LLYFANTOD a MADFALL.

  • Byw rhan fwyaf o'i bywyd mewn cynefin llaith - angen dwr ar gyfer ffrwythloniad.
  • Larfau (penbyliaid) hefyd yn byw mewn dwr, cyfnewid nwyon gan ddefnyddio tagellau.
  • Wrth i'r epil tyfu mae'r tagellau yn cael eu newid i fod yn ysgyfaint gan orfodi'r penbwl i ddod i arwyneb y dwr er mwyn anadlu. (proses o'r enw METAMORFFOSIS)
  • Pan yn anactif, oedolyn yn defnyddio ei groen llaith fel arwyneb resbiradu ac yn derbyn cyflenwad digonol o ocsigen.
  • Pan yn actif, oedolyn yn defnyddio'r ysgyfaint.
1 of 3

Ymlusgiad

Cynnwys CROCODEIL a NADROEDD

  • Wedi addasu llawer yn well i'r tir na'r amffibiaid.
  • Parau o asennau yn ymestyn allan o'r asgwrn cefn er mwyn ddiogelu'r corff ac yn ymwneud a system awyru'r ysgyfaint.
  • Ysgyfaint yn fwy cymhleth nag un amffibiad - gyda meinweoedd wedi plygu er mwyn cynyddu arwynebedd arwyneb ar gyfer cyfnewid nwyon.
2 of 3

Adar

  • Ysgyfaint sydd gyda strwythur mewnol sy'n debyg i famolion.
  • Angen cyfeintiau mawr o ocsigen er mwyn darparu'r egni ar gyfer hedfan.
  • Mecanwaith awyru'r ysgyfaint llawer fwy effeithiol na fertebratau eraill.
  • System o sachau aer wedi'u cysylltu i'r ysgyfaint sy'n gweithredu fel "bellows".
  • Pan mae aderyn yn anadlu i mewn mae unrhyw aer sydd yn weddill yn yr ysgyfaint yn cael ei sugno i fewn i'r sachau aer.
  • Awyru'r ysgyfaint yn digwydd gan symudiad yr asennau - NID OES GANDDYNT LLENGIG.
  • Pan fydd aderyn yn hedfan mae gweithred y cyhyrau hedfan yn awyru'r ysgyfaint.
  • Cyfnewid nwyon yn effeithiol iawn - bron dim nwy gweddilliol yn tiwbiau'r ysgyfaint.
3 of 3

Comments

No comments have yet been made

Similar Biology resources:

See all Biology resources »See all Human, animal and plant physiology resources »