Straen
0.0 / 5
- Created by: Mooskey
- Created on: 15-04-17 12:04
Nodweddion Straen
1 of 42
Esboniad Biolegol 1: Straen Llym a Adrenalin
- Esboniad biolegol o straen wedi cael ei rhannu i fewn i ddau:
- Straen Llym (byr tymor)
- Straen Cronig (hir dymor)
2 of 42
EB1 - Llwybr SAM
- Llwybr SAM
- Pryd mae person neu anifail yn wynebu bygythiad, mae'r hypothalmws yn yr ymennydd yn cael ei rhybuddio a cyn cydlynu ymateb gan y System Nerfol Awtomatig (ANS)
- Hyn yn ennyn (arouses) y Gangen Sympathetig y ANS
- System Nerfol Sympathetig yn anfon neges i'r Medwla Adrenal (rhan o'r chwarren adrenal) i rhyddhau hormonau Adrenalin a Noradrenalin.
- Hormonau yma yn cylchredeg trwy'r corff ac yn targedu organau allweddol fel y calon a cyhyrau, sy'n achosi'r calon pwmpio yn gyflymach a pwysedd y gwaed i cynyddu.
- Pryd mae'r bygythiad wedi gadael mae'r ymateb yna cael ei lleihau gan y Gangen Parasympathetig y ANS.
3 of 42
EB1 - Ymateb Ymladd neu Ymyrrid
- System SAM yn cael ei nabod fel y ymateb ymladd neu ymyrrid oherwydd y newidiadau sydd wedi cael ei achosi gan y rhyddhad o adrenalin a noradrenalin sy'n paratoi y corff ar gyfer ymladd neu ymyrrid.
- Corff yn anfon gwaed oddi wrth prosesau nad sy'n hanfodol, ac yn anfon i llefydd lle mae ei angen.
- Ocsigen yn cael ei cludo i cyhyrau er mwyn galluogi nhw i gweithio yn galetach
- Storfa egni yn cael ei rhyddhau ac mae ein synhwyrau yn cael ei hogi i fod yn fwy ymatebol i'r amgylchedd
- Pibellau gwaed yn y chwarren boer yn cael ei cyfyngu, mae'r ceg yn mynd yn sych ac rydym yn chwysu i oeri y system sy'n gorweithio
- Mae hyn yn paratoi y corff i wynebu y dirboenwyr trwy darparu y andnoddau sydd angen i ymateb yn ymysodol (ymladd) neu'n amddiffynnol (ymyrrid)
4 of 42
EB1 - Cysylltiad i Esblygiad
- Ymateb ymladd ymyrrid wedi esblygu fel strategaeth ymaddasol i delio gyda bygythiadau roedd ein hynafiad yn wynebu yn y EEA.
- Roedd y dirboenwyr oedd rhaid i nhw wynebu angen ymateb mwy egniol, megis gwynebu llew.
- Straen byd modern yn fwy tebygol o gael ei achosi gan dychryn sydyn.
5 of 42
EB1 - Effaith ar y Galon
- Lefelau uchel o adrenalin a noradrenalin yn cael effaith uniongyrchol ar y galon, sydd wedi gael ei gysylltu i Anhwylderau Cardiofasgwlaidd
- Stroc
- Trawiad ar y galon
- Cynnwf sympathetig yn achosi'r galon i gweithio yn gaeletach ac yn gyflymach
- Pwysedd gwaed yn codi o ganlyniad i pibellau gwaed cael ei cyfyngu
- Rhydweliau yn gallu cael ei flocio o ganlyniad i plac dod yn rhydd o waliau y pibellau gwaed
- Person sy'n profi rhyddhad o adrenalin fel ymateb i staren yn gallu achosi problemau ar y galon
- Timo Heidt et al (2014)
- Astudiaeth ar llygod a staff meddygol oedd yn gweithio ar wardiau straenus
- Yn achosion lle roedd gan y unigolion oedd yn cael rhydweliau trwchus, reodd y straen ychwanegol yn arwain i cynnydd yn y nifer o celloedd gwyn y gwaed sy'n ymladd yn erbyn clefydau.
- Celloedd gwyn y gwaed yn achosi llid (inflammation) ac yn cynhyrchu briwiau (anafau bach)
- Platennau gwaed a proteinau ceulo (clotting) yn rhuthro i llewnwi y anaf, sy'n cynyddu y risg o geulio sy'n gallu arwain i trawiad ar y galon
6 of 42
EB1 - Gwerthuso - Tystiolaeth Cefnogol
- Jonathan Leor et al (1996)
- Cynnydd mewn y nifer o marwolaethau wedi achosi gan problemau cardiofasgwlaidd ar y dydd o'r ddaeargryn Northridge California yn 1944.
- Trwy defnyddio ddaeargryn yn darparu cyfle unigryw i asesu effaith straen llym heb angen ysgogi un o fewn awyrgylch labordy.
- Cefnogi y cysylltiad rhwng straen, adreanlin a probelmau ar y galon
- Cyflwyr o enw straen cardiomyopathi
- Effeithio pobl gyda sy'n dioddef a straen emosiynnol difrifol
- yn aml yn cael ei cam diagnosis fel trawiad ar y galon, ond yn golygu fod rhyddhad mawr o adrenalin yn parlysu hanner gwaelod y galon, sy'n golygu fod y top angen gweithio yn galetach.
- Gallu achosi marwolaeth, ond mae rhan fwyaf o pobl yn gwneud adferiad llawn.
- Dangos bod adrenalin yn cael ei rhyddhau fel ymateb i staren llym ac yn gallu cael effaith negyddol ar y galon.
7 of 42
EB1 - Gwerthuso - Efallai nad ydy straen yn ffacto
- Joel Dimsdale (2008)
- Uwcholeuodd Dimsdale yn adolygiad ar y perthynas rhwng straen a problemau cardiofasgwlaidd fod rhaid iddynt fod yn ofalus pryd rydym yn dweud fod straen yn achosi clefyd y galon oherwydd mae yna nifer o factorau arall sy'n gallu cael effaith fel ysmygu
- Liu et al (2015)
- Data sydd wedi cyhoeddi yn ddiweddar fel rhan o'r 'UK Million Women Study' yn awgrymu fod data blaenorol wedi methu i cyfeiro yn llawn y problem o achos ac effaith.
- Liu et al yn awgrymu fod pobl sy'n sal yn adrodd lefelau uwch o straen ac yn llai hapus yn hytrach na'r ffordd arall rownd - straen sy'n achosi'r salwch.
- Ymchwilwyr wedi dadansoddi data o mwy na 700,000 o fenywod oedd wedi llewni i fewn y holiadur am ei hapusrwydd, ei bywyd, a statws iechyd.
- 10 blwyddyn yn ddiweddarach, roedd tua 4% or cyfrangowr wedi marw.
- Graddfa marwolaeth ddim yn fwy ymysg y rhai anhapus i gymharu a'r rhai hapus
- Awgrymu fod straen ddim yn ffactor achosol yn problemau fel clefyd y galon.
8 of 42
EB1 - Gwerthusaid - Gwahaniaethau Gender
- Un problem gyda ymchwil i fewn i ymateb ymladd neu ymyrrid yw ei fod yn tueddu o focysu ar dynion ac mae'n posib bydd menywod yn ymateb yn gwahanol.
- Shelley Taylor et al (2000)
- Yn galw ymateb benywaidd i straen yw 'tend a befriend'.
- Yn y EEA, ymaddasol i fenywod i delio gyda straen trwy meithrin eu ifanc (tend) a creu rhwydweithau cymdeithasol gyda menywod eraill (befriend)
- Os roeddent yn rhedeg i ffwrdd o'r bygythiad byddant yn rhoi ei plant at risg.
- Gall y ymateb yma achosi gan y rhyddhad o Oxytocin (hormon cariad) sy'n creu yr unigolyn fwy hamddenol ac yn lleihau y ymateb ofn.
- Oxytocin yn cael ei rhyddhau yn mewnywod ac dynion fel ymateb i straen, ond mae astudiaeth ar llygod mawr wedi dangos for yr hormon yn cael ei rhyddhau mwy yn fenywod.
- Dynion yn cynyrchu lefelau uchel o Testosterone pryd mae nhw o dan straen.
- Testosterone yn leddfu effaith Oxytocin.
9 of 42
EB1 - Gwerthusiad - Her V Bygythiad
- Jim Blascovich a Joe Tomaka (1996)
- Awgrymu bod gwhaniaeth yn y ffordd mae ein corff yn ymateb i sefyllfaoedd straenus yn dibynnu os rydym yn gweld y digwyddiad fel bygythiad neu her.
- Os rydym yn gweld hi fel her, mae ein pibellau gwaed yn ymlacio, mae'r calon yn curo yn fwy pwerus a mae perfformiad yn tebygol o gwella.
- Os mae'r digwyddiad yn cael ei gweld fel bygythiad, mae'r calon yn curo yn gyflymach.
- Jeremy Jamison et al (2012)
- Dynrannu cyfranogwyr ar hap i 1 allan o 3 amodau ac yna cafodd tasg straenus oedd yn cynnwys gwneud araith o blaen 2 arslywyr oedd yn darparu adborth negyddol.
- Dangos fod focysu ar dim ond bioleg ymateb straen, gallwn fod yn anwybyddu pwysigrwydd agwedd seicolegol o straen.
10 of 42
EB2 - Cortisol a Straen Cronig
- Yr ail esboniad biolegol am straen yw cortisol a straen cronig
- Delio gyda straen hir dymor
- Fel rhan o'r esboniad mae'r hormon cortisol yn cael ei rhyddhau
- Fel adrenalin, mae cortisol yn paratoi y corff i wynebu straen
- Ond os mae gormodedd yn cael ei rhyddhau gall achosi problemau i'r system imiwnaidd
11 of 42
EB2 - Y Echelin HPA
- Pryd mae straen yn cael ei adnabod, mae'r ymateb SAM yn cael ei sbarduno, ar yr un pryd mae'r ail esboniad sy'n arafach yn cael ei sabrduno hefyd.
- Hypothalwms yn cynhyrchu hormon rhyddhau corticotropin (CRH) i fewn i'r llif gwaed.
- Mae hwn yn achosi Chwarren Bitwidol i rhyddhau Hormon Adrenocorticotropin (ACTH)
- Yna yn ysgogi y Cortecs Adrenal i rhyddhau y hormonau megis Cortisol.
- Tystiolaeth o gweithred o HPA fel ymateb i straen wedi cael ei gweld yn nifer o astudiaethau.
- Katrina Lacey et al (2000)
- Ymchwiliad i fewn i grwp o myfyrwyr oedd yn paratoi ar gyfer arholiad.
- Wrth cymharu gyda grwp rheoledig wedi matsio, roedd y myfyrwyr yn dangos lefel uchel o cortisol 1 awr cyn y arholiad.
12 of 42
EB2 - Cortisol
- Cortisol yw hormon steroid sydd yn teulu o hormonau ac yn cael ei nabod fel glucocorticoids
- Ei swyddogaeth arferol yw i chwarae rol yn y System Nerfol Canolig lle mae'n cymryd rhan gyda dysgu a cof ac yn rheoleiddio storfa glwcos ar system imiwnaidd.
- Pryd mae'n cael ei rhyddhau o ganlyniad i straen mae'n lleihau sensitifrwydd i boen ac yn rhyddhau glwcos ar gyfer egni dros cyfnod o amser.
- Gan gwneud ni yn fwy parod i delio gyda straen
- Gallu effeithio perfformiad gwybyddol, yn anwedig ar y cof ac yn gallu lleihau ymateb imiwniadd.
13 of 42
EB2 - Effaith ar Cof
- Un effaith mae gan cortisol yw effaith ar y cof
- Sabrina Kuhlmann et al (2005)
- Rhoddwyd Cortisol i grwp o fenywod oedd yn cael ei gofyn i dysgu rhestr o 30 gair.
- roedd y rhai oedd wedi derbyn cortisol yn cofio llai o eiriau, yn enwedig gyda geiriau negyddol.
- Mae'r effaith yma ar y cof yn cael goblygiadau ar gyfer perfformiad o dan straen.
- Os mae cortisol yn yn cael ei rhyddhau yn amodau straenus gall hwn esbonio pam mae myfyrwir yn dweud bod ei 'mind goes blank' pryd mae nhw mynd i fewn i arholiadau.
14 of 42
EB2 - Effaith ar Iechyd
- Wrthimiwnedd
- System imiwnedd fel arfer yn ymateb i pathogen fel virws gan ymosod arno.
- Pryd rydym yn wynebu straen, mae'r system imiwedd yn cael ei weld fel system nad sy'n hanfodol, felly mae'n cau lawr er mwyn anfon egni i llefydd eraill.
- Cortisol yn gwneud hyn gan lleihau llid (inflammation) sy'n cael ei achosi gan y ymateb imiwnedd.
- Os mae'r ffactorau sy'n achosi straen yn parahau, mae'r wrthimiwnedd yn parhau a gall hyn rhoi y unigolyn at risg o salwch megis annwyd, heintiau a problemau gastroberfeddol.
- Hyn yn cael ei dangos gan anhwylder prin, Syndrom Cuushing Nifer o gwaith ymchwil wedi dangos bod wrthimiwnedd yn gallu ymddangos o ganlyniad i straen.
- Maent yn cael lefelau uchel o cortisol ac hefyd yn cael risg uchel o heintiau
- Kiecolt - Glaser et al (1984) - ymchwilio i fewn i effaith straen ar y sytem imiwnedd trwy mesur gweithgarwch celloedd lladdwr naturiol (NK) mewn 75 myfyrwr meddygol un mis cyn arholiadau a yn ystod y cyfnod ei hunain.
- Gweithgaredd NK yn llawer is yn samplau gwaed oedd wedi cael ei cymryd yn ystod yr arholiad.
- Holiadur SRRS yn cael ei cwblhau i darganfod factorau allanol
15 of 42
EB2- Gwerthusiad - Lefelau Isel o Cortisol yn Gall
- Rol cortisol o achosi salwch sy'n gysylltiedig a straen yn fwy cymleth nag mae'n cael ei ymddangos yn gyntaf.
- Ymchwil yn ddangos ei fod nid yn unig lefelau uchel o cortisol yn gallu achosi problemau iechyd.
- ar gyfer rhan fwyaf o bobl nid ydy'r slawch yn ymddagos tan ar ol i'r ffactor straenus diflanu, er enghraifft yn ystod gwyliau ysgol neu ar ol cyfnod arholiadau.
- Gostyngiad sydyn o cortisol ar ol i'r ffactor straenus diflanu yn gallu arwain i effaith llid.
- Christine Helm et al (2000)
- Nifer o astudiaethau yn cysylltu lefelau isel o cortisol i nifer a cyflyrau iechyd megis chrinic fatigue syndrome a PTSD.
- Mechanwaith union dal yn anclir ond gall y cydbwysedd o cortisol dros cyfnod o amser fod fwy pwysig na yn syml cael ei rhyddhau.
16 of 42
EB2 - Gwerthusiad - Materion Mewn Astudiaethau Ymc
- Sefydlu y perthynas achos a effaith rhwng rhyddhad cortisol sy'n cysylltiedig i straen a salwch dilynol yn annodd iawn.
- Pryd mae pobl yn teimlo straen,mae'n tebygol byddant yn newid ei aferion bwyta, yn cael problemau cysgu, neu yfed mwy o alcohol neu caffein, pop un ohonynt hefyd yn cynyddu lefelau cortisol ac yn drysu unrhwy darganfyddion gan astudiaethau.
- Gall fod yna gwahnaiaeth oedran neu gender yn y ymateb y system HPA i straen.
- Nestor Lopez-Duran et al (2009)
- Amrywiad yn y rhydhad o coritisol yn plant pryd yn sefyllfa straenus.
- Oriau brig o rhyddhau cortisol yn amrywio o 10 muned i 60 muned ar ol y ffactor straenus cael ei cyflwyno.
- Bechgyn yn dangos mwy o gweithred cortisol .
- Ac felly dyle astudiaethau ymchwil ystyried hyn pryd mae'r canlyniadau yn cael ei ddadansoddi.
17 of 42
EB2 - Gwerthusiad - Straen Ddim wastad yn Gwael i'
- Astudiaethau yn dangos yn rhai achosion, mae straen yn gwella gweithred y system imiwnedd.
- Phil Evans et al (1994)
- Edrychodd i fewn gweithred gwrthgyrff - slgA - sy'n helpu amddiffyn yn erbyn heintiau.
- Rhaid i'r myfyrwyr gwneud araith o flaen myfyrwyr arall.
- Dangos cynydd yn slgA, tra roedd lefelau slgA yn lleihau yn ystod cyfnod arholiadau oedd wedi ymestyn dros cyfnod o wythnosau.
- Ac felly, mae Evans et al (1997) yn cynnig fod straen yn cael dau effaith ar y system imiwnedd:
- Up-regulation (cynyddu effeithlonrwydd) am straen llym - byr tymor
- Down-regulation (lleihau effeithlonrwydd) am straen cronig - hir dymor
18 of 42
EB2 - Gwerthusiad - Dyw Straen Ddim Wastad yn Codi
- Angysondeb adraws ymchwil i wneud a ymateb y corff i straen.
- Richard Lewis et al (2007)
- Adolygiad o astudiaethau wedi dangos amrywiad yn ymateb i straen arholiad yn amrywio o gostyngiad o 58% i gynnydd o 95% yn lefelau cortisiol.
- Yn astudiaeth ei hunain darganfyddodd dim gwahaniaeth yn lefelau cortisiol fel ymateb i straen arholiad.
- Adolygiad o astudiaethau wedi dangos amrywiad yn ymateb i straen arholiad yn amrywio o gostyngiad o 58% i gynnydd o 95% yn lefelau cortisiol.
- Wedi cael ei awgrymu fod amrywiadau yma yn ganlyniad i nifer o ffactorau megis hyd o amser parodd y straen, natur y bygythiad ar emosiwn roedd y unigolyn wedi cysylltu i'r straen.
- Diffyg astudiaethau hydredol i dangos y amrywiad o lefelau cortisol dros cyfnod hir o amser.
- Ac felly, mae angen mwy o ymchwil gael ei gynnal i darganfod ei rol (Miller et al, 2007)
19 of 42
Esboniad Gwahaniaethau Unigol 1: Gwydnwch
- Er fod rhai pobl yn profi yr un profiadau streanus, mae pobl yn ymateb iddynt yn gwahanol ffyrdd.
- Hwn wedi arwain i seicolegwyr i edrych a gwahniaethau unigol sy'n effeithio ymateb i straen.
20 of 42
EGU1 - Y Personoliaeth Gwydn
- Suzanne Kobasa a Salvatore Maddi wedi awgrymu fod pobl gyda personaliaeth gwydn yn cael y gallu i delio a sefyllfaoedd straenus yn gwell.
- Personoliaeth Gwydn wedi gwnued o 3 prif elfennau:
- 1. Rheolaeth
- Unigolion gwydn yn gweld ei hunain fel rhai sy'n cael rheolaeth dros bywydau ei hunain, yn hytrach na cael ei rheoli gan factorau allanol ac yn cael ymdeimlad o pwer personol.
- Maent yn credu gallent cymryd camau gweithredu bydd yn dylanwadu'n uniongyrchol cwrs ei fywyd.
- 2. Ymrywmiad
- Yn cael ymdeimlad o bwrpas a ystyr i fywyd.
- Yn chwilfrydig am pobl eraill a'r bywyd o amgylch ac hefyd yn credu s'dim ots pa mor galed mae pethau dylid wastad aros ac ymwneud yn hytrach na dieithro eich hunain o'r sefyllfa
- 3. Her
- Pobl yn gweld sefyllfa straenus fel cyfle am tyfiant a datblygiad.
- Derbyn fod profiadu straen a newid yn rhan o bywyd a rhywbeth i goresgyn.
- Ac felly, nid ydynt yn disgwyl bywyd i fod yn hawdd ac yn dysgu oi fethiannau a'i llwyddiannau.
21 of 42
EGU1 - Sut Mae Nodweddion Hyn yn Clystogi yn Erbyn
- Cael personoliaeth gwydn yn cael ei gweld fel llwybr i gwydnwch yn erbyn straen.
- Gyda'i gilydd gall nodweddion personoliaeth golygu pryd rydym yn gwynebu straen bydd unigolion yn gwneud yn well trwy prosesu strategaethau ymdopi, hunain gofal, a defnydd o gymorth cymdeithasol.
- Yn ei tro, mae unigolion gwydn yn profi llai o ymateb ffisiolegol straen, megis cynydd yn pwysedd gwaed a curiad y galon.
- Golygir hyn fod nhw'n llai tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig a straen oherwydd nid ydynt yn profi lefelau uchel o hormonau straen fel cortisol.
22 of 42
EGU1 - Astudiaethau Ymchwil
- Ymchwil cynnar gan Kobasa a Maddi wedi dangos fod y rhai gyda personoliaeth gwydn yn cael y gallu gwell i ymdopi a straen yn ei fywyd.
- Defnyddiodd Suzanne Kobasa fersiwn o'r SRRS gyda holidadur a'r salwch i gymharu dau grwp o gweithredwyr busnes gwrywaidd.
- Un grwp wedi profi straen uchel ac wedi dod yn sal, Profion personaliaeth wedi dangos fod y grwp oedd yn cael profiad o straen ond ddim wedi cwimpo yn sal yn cael nodweddion personoliaeth gwydnwch.
- Salvatore Maddi (1987) wedi cynnal gwaith ymchwil ar gweithwyr y Bell Telephone Company oedd yn profi cyfnodau straenus o diswyddiadau a ad-drefnu.
- Trydydd o'r unigolion yn dangos personoliaeth gwydn, a rhain oedd y rhai oedd yn dioddef yn llai o salwch sy'n cysylltiedig a straen megis problemau y galon a salwch meddwl fel iselder.
- Ymchwil pellach wedi dangos er fod factorau fel ymarfer corff a cymorth cymdeithasol yn helpu amddiffyn yn erbyn effeithiau straen, personoliaeth gwydn yn fwy effeithiol (Kobasa et al 1986)
- Paul Bartone (1999) wedi darganfod fod milwyr gyda leffelau uchel o gwydnwch yn gallu ymdopi yn gwell i straen fel canlyniad i digwyddiadau bywyd.
- Milwyr gwydn yn llai tebygol o brofi canlyniadau iechyd hir dymor fel PTSD a iselder.
23 of 42
EGU1 - Gwerthuso - Gwhaniaethau Gender
- Ymchwil gwreiddiol i fewn i personoliaeth gwydn gan Kobasa dim ond yn cynnwys sampl gwrywaidd a mae'n posib bydd y canlyniadau yn gwahanol i fenywod .
- James Shepperd (1991) wedi uwcholeio darganfyddiadau anghyson pryd rydym yn ystyried gender a sut mae gwydnwch yn effeithio ymateb i straen.
- Ymchwil wedi darganfod fod elfenau rheolaeth a ymrwymiad o personoliaeth gwydn yn rhagfynegi canlyniadau iechyd ar gyfer dynion on nid menywod.
- Fallai mae rhaid ystyried rlffenau gwahanol ar gyfer gwydnch pan rydym yn edrych ar gwahniaethau gender.
- Shepperd hefyd wedi awgrymu gall fod yna effaith gwahanol yn gwahanol grwpiau oedran
- Effaillai y perthynas rhwng gwydnwch a straen ddim ond yn perthnasol yn menywod henach a gall hyn esbonio y anghysondeb yn y canlyniadau.
24 of 42
EGU1 - Gwerthuso - Pwysigrwydd y Tri Elfen
- Maddi (2013) yn ddadlau mae rhaid cael y tri elfen o personolaieth gwydn er mwyn amddiffyn o effeithiau straen.
- Er enghraifft, mae'n awgrymu fod rhai gyda lefelau uchel o rheolaeth ond isel o rhan ymrywmiad a her yn tebyg i personoliaeth math A.
- Ymchwilwyr eraill yn anghytuno.
- Asle SAndvik (2013) wedi astudio 21 cadetiaid llynges Norwegian yn ystod ymarfer maes straenu, casglodd sgoriau gwydn ychydig o fiwrnodau o flaen llaw, a sampl gwaed hanner trwy ffwrdd a diwedd yr ymarfer.
- Er roedd pawb wedi sgorio yn uwch ar y sgoriau gwydnwch, roedd rhai yn uchel ar ymroddiad a rheolaeth ond yn llai ar her.
- Cafodd hein ei galw yn y grwp gwydnwch anghydbwyesdd, ac wedi cael ei cymharu gyda grwp cydbwysedd gwydnwch.
- Grwp cydbwysedd yn dangos fwy o postensial o gael ymateb imwinedd niweidiol i straen yn ei samplau gwaed.
- Felly, sgorio yn isel ar her yn gallu creu chi'n fwy agored i straen yn sefyllfaoedd amwys.
- Hyn yn awgrymu fod elfenau penodol or personoliaeth gwydn yn gallu chwarae mwy o rol na eraill.
25 of 42
EGU1 - Gwerthuso - Neuroticism
- Steven Funk a Kent Houston (1987) wedi nodi fod yna gorgyffwrdd rhwng eitymau ar rhaddfa gwydn a'r rhai a ddefnyddir i mesur nodewddion personoliaeth neuroticism.
- Er enghraifft, gall raddfa gwydn cynnwys y datganiad ' os mae rhywun yn mynd yn grac at fi, mae fel arfer ddim yn bai fi', tra fod raddfa sy'n fesur neuroticism yn defnyddio y term ' dwi'n teimlo rwyf wedi cael fy cosbi heb achos' - datganiad tebg.
- Pobl gyda personoliaeth neuroticism yn dgrio (dwell) ar ei fethiannau ac yn focusu ar pethau negyddol yn ei bywyd.
- Fwy tebygol o gorymestyn ei salwch.
- Ac felly, cyfrangogwyr yn gwaith ymchwil gyda lefelau isel o gwydnwch, effallai nad ydynt yn fwy sal, ond yn fwy niwrotig.
- Os mae Niwrotaeth yn cael ei rheoli, yna nid ydy'r perthynas rhwng gwydnwch a salwch wastad yn cael ei weld.
- Modd bynnag, Funk (1992) yn awgrymu rod rhaid cael mwy o ymchwil i ddarganfod natur y perthynas rhwng y ddau.
- Er enghraifft, gall fod yna trefn uwch o'r nodweddion sy'n amddiffyn o straen.
26 of 42
EGU1 - Gwerthuso - Materion Mesur Gwydnwch
- Mesur gwydnwych yn dibynnu ar hunain adroddiad, sy'n cael nifer o bryderon megis Dymunoldeb Cymdeithasol.
- Yn ogystal i hyn, mae yna nifer o graddfeydd sy'n cael ei ddefnyddio i mesur gwydnwch sy'n gallu creu drwysch pryd rydym yn cymharu astudiaaethau.
- Unrhyw gahaniaethau yn canlyniadau yn gallu fod yn ganlyniad i gwahnaiaethau yn y rhaddfeydd.
- Steven Funk (1992) yn awgrymu ymagwedd unffurf gan defnyddio DRS, ac yn honni mae'n well oherwydd mae'n mesur y tri elfen yn hafal ac yn cynnways eitemau sydd wedi ei ysgrifennu mewn ffordd positif.
27 of 42
EGU2 - Personoliaeth Math A a B
- Yn y 1950'au datblygodd Meyer Friedman a Ray Rosenman theori personoliaeth seiliedig ar arsylwi ymddygiad pobl.
- Sylweddolodd fod rhai unigolion yn tenser ac arddangosodd rhai ymddygiadau penodol, megis dim gallu eistedd yn llonydd am cyfnodau hir o amser, tra fod eraill yn ymlacio.
- Roedd hyn wedi arwain i Friedman a Rosenman i creu gwahaniaeth rhwng dau math o personoliaeth: Math A a Math B
- Personoliaeth Math A yn fwy cystadleuol a gelyniaethus.
- Personoliaeth Math B yn dawelach ac yn cael y gallu gwell i mynegi teimladau
28 of 42
EGU2 - Cysylltiad Rhwng Personoliaeth Math A a Sal
- Mae wedi cael ei awgrymu fod rhai gyda personoliaeth math A yn fwy tebygol o profi ymateb ymladd neu ymyrrid.
- Ac felly, yn fwy tebygol o rhyddhau hormonau straen fel adrenalin y rheolaidd.
- Hwn yn arwain i pwysedd gwaed a curiad y galon uchel, sy'n gallu achosi niwed i'r pibellau gwaed.
- Gan cynyddu y tebygolrwydd o Clefyd Coronaidd y Galon (CHD) a stroc.
29 of 42
EGU2 - The Western Collaborative Group Study
- Astudiaeth hydrydol o 3,154 o ddynion rhwng y oedran 39 and 59 ar dechrau or astudiaeth yn 1960 - 1961.
- Dynion yn cael ei catigorieddio i fewn i personoliaeth math A a B gan defnyddio tasg cyfweliad.
- Cywedliad yn cynnwys 25 cwestiwn am sut oeddynt yn ymdopi gyda straen pob dydd.
- Er enghraifft, roedd y cyfranogwyr yn cael ei ofyn sut oeddynt yn ymdopi cyda aros mewn ciw hir.
- Cyweliad yn cael ei cynnal mewn modd bryfoclyd i gesio ecbloitio personoliaeth math A.
- Arsylwi y ffordd roeddynt yn ymateb i cwestiynau, megis cyfaint ei llais a cyflymder.
- Ar ol 8 a hanner blwyddyn, cafodd y cyfranogwyr ei asesu: 257 wedi datblygu clefyd y galon a 70% ohnoynt yn cael personoliaeth math A.
- 12.8% o'r cyfranogwyr math wedi profi trawiad y galon i gymharu gyda 6% o cyfranogwyr math B.
- Unigolion personoliaeth math A hefyd yn cael pwysedd gwaed uwch a colestorol na cyfranogwyr math B.
- Facctorau risg arall megis ysmygu wedi cael rheoli.
30 of 42
EGU2 - Ymchwil Arall
- Cysylltiad rhwng personoliaeth math A, straen a problemau dilynol wedi cael ei cefnogi gan nifer o waith ymchwil.
- Framingham Heart Study - wedi lleoli yn Prifysgol Boston wedi casglu llawer o data ar ffactorau risg ar gyfer CHD ers dechrau yn 1948.
- Suzanne Haynes et al (1982) wedi adrodd bod yn ei sampl roedd ymddygiad math A yn cysylltiedig a cynnydd yn y risg o CDH dros cyfnod o 10 blwyddyn.
31 of 42
EGU2 - Gwerthuso - Tystiolaeth Cefnogol
- Nifer o cefnogaeth am y gwahniaeth yn ymateb ffisiolegol i straen rhwng unigolion personoliaeth math A a math B.
- Gofynodd Friendman et al (1975) cyfranogwyr i cwblhau pos (puzzle) heb eu ddatrys mewn awyrgylch swnllyd, a cynnig gwobr os mae'r pos yn cael ei ddatrys.
- Unigolion Personoliaeth Math A yn ymddangos yn fwy stressed a flin gan y tasg i gymharu a unigolion Personoliaeth Math B.
- Dangosodd lefelau uchel o adrenalin yn ystod y cystadleaeth, a dangos dim gwahaniaeth pryd oeddynt yn gorffwys o dan amodau arferol.
- Cynnig cefnogaeth am y faith fod ymateb ffisiolegol unigolion personoliaeth math A i straen yn fwy agored i problemau hir dymor fel CHD
32 of 42
EGU2 - Gwerthuso - Tystiolaeth Heriol
- David Ragland a Richard Brad (1988) wedi dilyn 257 o'r garfan gwrieddiol o'r Western Collaborative Group Study 22 blwyddyn ar ol i edrych ar effeithiau hir dymor.
- Er roedd ymddygiadau megis ysgymu a lefelau colesterol yn rhagfynegyddion pwysig o marwolaeth CDH.
- Personliaeth Math A dim yn dangos perthynas sylweddol gyda hi.
- Er roedd unigolion personoliaeth math A yn fwy tebygol na personoliaeth math B i dioddef o clefyd y galon, roedd nhw'n fwy tebygol o oroesi trawiad y galon.
- Posib fod newidynnau allanol wedi cael ei cyflwyno gan y cyhoeddiad y canlyniadau cychwynnol, wedi arwain i unigolion personoliaeth math A i addasu ei ymddygiad 'stressed out' gan lleihau ymateb negatif i straen.
33 of 42
EGU2 - Gwerthuso - Tuedd Diwylliannol a Rhywedd
- Astudiaeth gwreiddiol dim ond yn cynnwys dynion a nodweddion personoliaeth math A fel gwrywdod a cystadleurwydd yn gallu cael ei ystyried i fod yn nodweddion gwrywaidd.
- Effallai nad ydy menywod yn dangos yr un nodweddion neuperthynas gyda straen.
- Modd bynnag, adolygiad gan Linda Baker a cyd-weithwyr (1987) wedi darganfod bod menywod yn dangos nodweddion tebyg o personoliaeth math A, yn ogystal a hyn cynnwrf mwy autonomig i straen, sy'n awgrymu byddynt hefyd yn profi yr un effeithiau negyddol ar ei iechyd.
- Celia Helman (1987) yn ddadlau fod y syniad o personoliaeth math A yn dangosi tuedd diwylliannol.
- Cafodd ei ddatblygu yn y UDA a mae'r gwerthoedd o gweithion galed a cystadleuthol yn tueddi i ymgorffori syniadau a normau Gorllewinol, na byddant yn cael ei weld y fewn diwylliannau nad sy'n Gorllewinol.
- Ac felly, mae'n awgrymu fod y syniad dim ond yn defnnyddiol pryd rydym yn edrych ar ymateb diwylliannau penodol.
34 of 42
EGU2 -Gwerthuso - Rol Gelyniaeth
- Posib i nodweddion penodol sy'n cysylltiedig i personoliaeth math A yn fwy pwysig na eraill o greu unigolyn yn fwy agored i dalwch sy'n gysylltiedig a straen.
- Michael Heker et al (1988) wedi ail-archwilio achosion o'r Western Collaborative Group Study, gan asessu dylanwad gwahanol cydrannau o'r personoliaeth Math A.
- Wedi darganfod fo gelyniaeth yn cael y perthynas fwyaf sylweddol gyda CHD ac yn awgrymu fod personoliaeth math A yn cynnwys nifer o elfennau nad sy'n cynnyddu y risg o CHD.
- Gall gwybodaeth yma fod yn defnyddiol wrth helpu personolaethau math A i ddatblyg ymateb fwy adeiladol i straen oherwydd gallynt focysu ar un cydran yn penodol o'i personoliaeth.
35 of 42
ESC1 - Digwyddiadau bywyd
- Digwyddiadau bywyd yw rhai sydd angen addasiad sylweddol.
- Gallu fod yn positif a negatif ond sydd ganddynt yn gyffredin y ffaith y byddant yn arwain at addasiad sylweddol a newidiadau mewn bywyd person.
- Ac felly, maent yn cael ei gweld fel ffynhonnell allweddol o straen a gall arwain i salwch a effeithiau negyddol eraill.
36 of 42
ESC1 - Mesur Digwyddiadau Bywyd
- Daeth Dr Thomas Holmes a diddordeb mewn ymchwilio i fewn i'r cysylltiad rhwng straen a salwch ffisiolegol.
- Ei ymchwil cynnar i fewn i cleifion gyda TB yn dangos fod pobl sy'n dod yn sal wedi profi fwy o digwyddiadau aflonyddu yn y ddwy flwyddyn cyn mynd i hysbytu TB (Hawkins et al,1957)
- Hyn wedi arwain Holmes, gyda Dr Richard Rahe, i ddatblygu y syniad o newidiadau bywyd. (Holmes a Rahe,1976)
- Er mwyn cynnal ymchwil ar digwyddiadau bywyd roedd rhaid i nhw ddatblygu ffordd o mesur sylfaenol sy gallu cael ei ddefnyddio i cynnal ymchwil yn y maes.
- Gan defnyddio ei profiadau clinigol i creu rhestr o digwyddiadau bywyd sy gallu arwain i salwch.
- Gofynodd 394 o gyfranogwyr i graddio pob eitem ar y rhestr yn nhermau o faint o ailaddasu byddai angen yn bywyd person.
- Roedd y rhestr yn cynnwys 50 digwyddiad.
37 of 42
ESC1 - Rhestr SRRS
- Marwolaeth Priod - 100
- Ysgariad - 73
- Tymor yn y Carchar - 63
- Salwch neu Damwain Personol - 53
- Priodas - 50
- Colli Swydd - 47
- Ymddeol - 45
- Feichiogrwydd - 40
- Marwolaeth Frind Agos - 37
- Newid yn Cyfrifoldebau yn y Gwaith - 29
- Plant Gadael Adref - 29
- Gyflawniad Personol Rhagorol - 28
- Dechrau neu Gorffen Ysgol - 26
- Newid Mewn Amodau Byw - 25
- Newid Ysgol - 20
- Gwyliau - 13
- Nadolig - 12
38 of 42
ESC1 - Mesur Digwyddiadau Bywyd 2
- Ar ol ddadansoddi y data datblygodd y rhestr SRRS.
- Rhestr yn cynnwys 43 eitem ac gyd yn cael gwerth o enw unedau didwyddiadau bywyd (LCU)
- Y eitem ar top y rhestr oedd marwolaeth priod gyda 100 LCU.
- Gwerth am digwyddiad llawn straen yn gallu cael ei cyfrifo yn unrhwy astudiaeth trwy ofyn y cyfranogwyr i ticio bant faint o digwyddiadau mae nhw wedi profi o fewn cyfnod penodol o amser.
- uwchaf y sgor y fwy o newidiadau bywyd mae'r person wedi profi.
- Uwchaf y sgor, y fwy tebygol yw'r person o dioddef o straen ac felly salwch.
- Wedi cael ei awgrymu fod sgor o 150 neu fwy yn cynyddu y tebygolrwydd o salwch sy'n gysylltiedig a straen gan 30% a sgor o 300 gan 50%
39 of 42
ESC1 - Tystiolaeth
- Nifer o astudiaethau ymchwil wedi defnyddio y SRRS a fersiwnau eraill o hi o mesur digwyddiadau bywyd ac wedi cymharu canlyniadau penodol.
- Er enghraifft, roedd un ymchwil gan Rahe et al 1970 yn edrych ar perthynas rhwng straen a salwch.
- Roedd ymchwiliad yn defnyddio fersiwn o'r SRRS o enw SRE i asesu 2,684 personel llynges gwasanethu ar dri fordaith llynges Unol Daleithiau.
- Roedd angen i'r cyfranogwyr cwblau y SRE cyn gadael daith ac yn ystod y 6-8 mis a oedd yn dilyn.
- Cafodd cofnod o unrhyw salwch oedd y dynion yn profi.
- Roedd y data oedd yn cael ei casglu yn dangos cydberthynas positif sylweddol o +.118 rhwng digwyddiadau bywyd straenus a salwch.
- Wrth i'r nifer o digwyddiadau bywyd cynnyddu y fwy tebygol y byddai'r unigolyn yn cwympo yn sal.
- O ganlyniad i digwyddiadau positif a negatif yn cael ei cynnwys yn y SRRS, mae'n ymddangos fod y newidiad yn hytrach y negatifrwydd y newidiad sy'n pwysig wrth creu straen.
40 of 42
ESC - Gwerthuso - Tystiolaeth Cefnogol
- Mewn ymdrech i asesu y perthynas rhwng digwyddiadau bywyd a straen mewn ffordd mwy rheoledig.
- Rhoddwyd Sheldon Cohen et al (1993) 394 cyfranogwyr cymysgedd o holiaduron i cwblhau gan gynnwys un digwyddiadau bywyd.
- Yna roedd y cyfranogwyr yn angored i'r firws annwyd, rhoi mewn cwarantin a cael ei fonitro am arwyddion o henitiad.
- Lefelau uchel o digwyddiadau bywyd yn cael cydberthynas positif gyda cynnydd yn y risg o gael annwyd.
- Mae hwn yn awgrymu fod yna newidiadau biolegol yn gysylltiedig i'r profiad o digwyddiadau bywyd straenus sy'n arwain i ni fod yn fwy agored i haint.
41 of 42
ESC1 - Gwerthuso Cydberthynas a Achosiaeth
- Problem clir gyda rhan fwyaf o ymchwil i fewn i digwyddiadau bywyd fel fynhonnell i straen yw fod ymchwil cydberthynol ac felly ddim yn profi achosiaeth.
- Gall factorau arall cymryd rhan mewn cyfryngu y perthynas rhwng digwyddiadau bywyd a slawch sy'n gysylltiedig a straen.
- Katherine Nuckolls et al (1972) wedi edrych ar effaith o digwyddiadau bywyd ar menywod feichiog, yn penodol nrhwy gymlethdodau roedd y menywod yn profi yn ystod y feichiogrwydd.
- Darganfyddodd yr ymchwilyr fod sgor digwyddiadau bywyd yn unig dim yn cysylltiedig i gymlethdodau.
- Modd bynnag, pryd roedd y sgor yn cael ei ystyried ochr yn ochr a mesuriad o cymorth cymdeithasol roedd yna perthynas clir; 90% menywod gyda sgor uchel o newidiadau bywyd ond sgor isel o gymorth gymdeithasol yn profi cymlethdod, i gymharu a 33% o rhai gyda sgor uchel o newidiadau bywyd ond sgor uchel o cymorth cymdeithasol.
- Awgryma hyn fod cymorth cymdeithasol yn newidyn ymyrryd pwysig sy'n dylanwadu pa effaith bydd y newidiad bywyd yn cael ar yr unigolyn.
42 of 42
Related discussions on The Student Room
- Make it More Breakfast-ey !! »
- Stress Management »
- stress from a levels »
- A level physics »
- Has anyone ever been happy that you left a stressful environment? »
- year 13 stress/emotions »
- What is meant by three definitions of stress. »
- Psychology a level paper 3 STRESS »
- what do you do when you feel stressed? »
- Advice to have a less stressful uni experience. »
Similar Psychology resources:
0.0 / 5
0.0 / 5
2.5 / 5 based on 3 ratings
0.0 / 5
1.0 / 5 based on 2 ratings
1.0 / 5 based on 1 rating
5.0 / 5 based on 1 rating
Teacher recommended
5.0 / 5 based on 1 rating
Comments
No comments have yet been made