Sgwrs Alis a Llywelyn Act 3 0.0 / 5 ? WelshSiwanASWJEC Created by: SJCreated on: 14-03-23 23:20 LLYWELYN: Welodd hi mono fo ers blwyddyn, Mi wn i hynny, ferch…Ydy dy feistres yn iach? ALIS: Mor iach ag y gall hi fod, syr, wedi blwyddyn o garchar. 1 of 13 LLYWELYN: Neilltuaeth, nid carchar. Cafodd bopeth ond ei rhyddid. ALIS: Do, syr, fe gafodd bopeth on ei rhyddid. 2 of 13 ALIS: Fe briododd yr arglwydd Dafydd. Doedd ei fam o ddim yn y briodas. Nac yn arwain dawnsio’r neithior. Gadwyd hi gyda’i hatgofion. ALIS: Mae hi wedi newid, f’arglwydd 3 of 13 LLYWELYN: Mae pawb yn newid…mae dicter a dial yn newid. LLYWELYN: Sut y newidiodd dy feistres? Pa newid a welaist ti? ALIS: Churodd hi mono fi ers blwyddyn gron? 4 of 13 ALIS: F’arglwydd, roedd hi’n ifanc ei hysbryd cyn ei charchar. LLYWELYN: Crogi Gwilym Brewys a’i crinodd hi, Aeth ei nwyfiant hi gyda Gwilym i gwlwm rhaff. 5 of 13 LLYWELYN: Maddau i mi. Un o’m teulu i oedd ef; Fe’i lladdwyd ger Castell Baldwyn; bachgen dewr. ALIS: Unwaith y gwelais i o cyn fy rhoi iddo’n wraig; Yna, wedi pythefnos gyda’n gilydd daeth y rhyfel. 6 of 13 ALIS: Aeth yntau a welais i mono fo wedyn. Mae’r cwbwl erbyn heddiw fel breuddwyd llances. LLYWELYN: Ond breuddwyd, nid hunllef. 7 of 13 ALIS: Yn y bore bach. Rhois i iddo gwpanaid o lefrith poeth o deth yr afr A chael cusan llaethog yng nghanol chwerthin milwyr. ALIS: Pythefnos, a’r cwbl ar ben. Roeddem ni’n dechrau nabod ein gilydd. 8 of 13 LLYWELYN: Dechrau nabod ei gilydd mae pob gwr a gwraig. Boed bythefnos neu ugain mlynedd. LLYWELYN: Rhodd enbyd yw bywyd i bawb. 9 of 13 ALIS: Hyd yn oed i dywysog? LLYWELYN: Onid dyn yw tywysog, ferch? ALIS: Byddai’n help iddi gael clywed. Mae rhyfel a chynghreirio a holl brysurdeb teyrnasu yn gae o gwmpas tywysog, mae ei fawredd ar wahan. 10 of 13 ALIS: Ond i ni ferched, ie i ferch o frenhines, Greddf mam yw gwraidd pob cariad, a chyntaf anedig gwraig yw’r gwr priod y rhoddir hi iddo yn eneth; LLYWELYN: Bod yn wan yw bod yn ddynol; dyna dy ergyd di? (DIHAREB) 11 of 13 ALIS: Plentyn oedd Gwilym Brewys, syr, plentyn bach. LLYWELYN: A phlant bychain sy’n mynd i deyrnas serch. 12 of 13 LLYWELYN: Oes sibrwd yn y llys? ALIS: Eich bod chi eto ar gychwyn rhyfel yn erbyn Brenin Lloegr. LLYWELYN: Mae hynny i’w setlo heddiw gan dy feistres; Hi sydd i ddewis, rhyfel neu dranc i Wynedd. LLYWELYN: Mae tynged Cymru yn ei dwylo hi. 13 of 13
Comments
No comments have yet been made