Dyfyniadau Act 2 Siwan

?
  • Created by: SJ
  • Created on: 24-02-23 00:10
SIWAN: Naddo, chysgais i ddim
SIWAN: Dydw i ddim wedi arfer â chadwyn haearn am fy ffêr, Yn fy rhwyno â hual wrth fur a gwely.
1 of 41
SIWAN: Mae’r gadwyn yn drom, Alis, y ffasiwn Gymreig ar freichled.
SIWAN: Teimlwch hi, clywch ei phwysau, pwysau digofaint tywysog.
2 of 41
ALIS: Pwysau ei siom, ma dame, mae ei siom ef yn ddwysach na’i ddig.
SIWAN: Mae hi’n brifo fy malchder gymaint…Heb ddychmygu’r profiad erioed, y Sarhad sydd mewn cyffion am draed.
3 of 41
ALIS: D’wedodd y Tywysog na chedwir y gadwyn ond heddiw.

SIWAN: Pam heddiw ac nid ar ôl heddiw? A all heddiw newid fy myd?

SIWAN: Ef a’th ddanfonodd di yma?
ALIS: I weini arnoch a gwneud eich negesau.
4 of 41
SIWAN: Pam felly y caf i forwyn i wneud negesau yn awr? Oes rhyw newid i fod ar fy myd?
ALIS: Gymerwch chi gwpan o’r gwin gwyn?
5 of 41
SIWAN: Deuddydd, dwy nos, a mudandod y gell, Mor bell yw Calan Mai. ‘Gysgaist ti ‘rioed yn unig
mewn stafell, Alis?
ALIS: Naddo, ma dame, nid Tywysoges wyf i. Chysgais i ‘rioed ond yn nifer ar lawr.
6 of 41
SIWAN: Mae Unigrwydd carchar yn wahanol. Rwy’n synnu ato.
SIWAN: Nid fy nistawrwydd fy hun sy’n faich yma, Ond y muriau mud, y porthor mud, a’r ansicrwydd.
7 of 41
SIWAN: Gallwn glywed am hydion fy nghalon fy hunan yn curo yn fy nghlust gan bryder.
SIWAN: Na does amser yn y tragwyddoldeb, Gobeithio fod hynny’n iawn. Mae syllu i lygaid amser yn gychwyn gwallgofrwydd… Ond bygwth fel y swn morthwylio ‘na a gychwynnodd cyn y wawr.
8 of 41
ALIS: Dydych chi ddim wedi cysgu ma dame, ddim ers tridiau, Nac wedi cyffwrdd â’r bwyd a anfonwyd atoch. Does ryfedd fod eich nerfau chi ar chwâl.
ALIS: I weini arnoch a bod wrth eich gorchymyn.
9 of 41
SIWAN: A gei di gario neges o garchar i garchar?
SIWAN: Beth yw’r gwaith coed diddiwedd yna ar y lawnt?
10 of 41
ALIS: Rhyw waith milwrol. Wn i ddim yn iawn.
SIWAN: Dos at y ffenest i edrych. Mae’r gadwyn yma’n fy nghlymu i wrth y mur fel arthes wrth bost.
11 of 41
SIWAN: Pe gwelsai fy nhad, y Brenin, gadwyn ar fy ffêr… Be mae nhw’n ei godi?
SIWAN: ‘All Gwynedd ddim mynd i ryfel, Oblegid hyn…Dywed wrthyf beth y mae nhw’n ei godi.
12 of 41
ALIS: ‘Does dim modd gweld yn glir drwy benillion y ffenest.

SIWAN: Celwydd, ferch.
ALIS: O peidiwch, ma dame peidiwch â gofyn eto. Ar fy ngliniau rwy’n erfyn.

SIWAN: Druan fach, be sy’ arnat ti? Paid â chrynu a chrio. Dywed yn dawel…
13 of 41
ALIS: Crocbren, ma dame, crocbren.
SIWAN: Crocbren? Go dda. Llywelyn. Ai dyna fy nghosb? Mae dy ddicter di’n fwy nag y tybiais…Alis fach, paid â chrio am hynny.
14 of 41
ALIS: Nid i ti, ma dame, nid i ti –

ALIS: Crocbren i Gwilym Brewys.
ALIS: Tyr’d i’m helpu i’w chodi…Cymer di ei thread…Dos i nôl dysgl o ddwr…

ALIS: Rhoisoch fraw inni, Arglwyddes…
15 of 41
ALIS: Dos allan, borthor, Mae hi’n amneidio arnat ti i fynd allan. Mae o wedi mynd. Does neb ond fi ma dame.
SIWAN: Mae arna’i gwilydd.

SIWAN: Da hynny. ‘Fynnwn ni ddim dianc fel yna.
16 of 41
SIWAN: Sut y condemniwyd ef? Gan lys yr ynad? Neu’r tywysog ei hun?
ALIS: Roedd y cwbl ar ben erbyn canol dydd ddoe. Bu’r plas drwy’r bore fel porth cwch gwenyn yn suo. O sibrydion, straeon, sisial...
17 of 41
SIWAN: Mae’n dda i ddynion fod serch yn brin y byd.
ALIS: Mae’ch pen chi’n gwaedu lle y trawsoch y mur
18 of 41
SIWAN: Bydd y gwaedu’n gostwng fy ngwres. Be ddigwyddodd wedyn?
ALIS: Dadleuodd dros dorri ei ben, Dienyddiad barwn bonheddg. Wrandawai mo’r Teyrn; Cosb lleidr a fynnai
19 of 41
ALIS: Chaiff neb fynd yn agos at ei garchar nac at y gwyr sy’n gweini arno…Ond neithiwr, ma dame, Wedi i’r esgob ei adael, mi gerddais yn ddirgel heibio i seler y twr. Fe’i clywais yn canu.
ALIS: Marie de France –
20 of 41
SIWAN: ‘Welaist ti grogi erioed?
ALIS: Do, wrth gwrs, ma dame, droeon, Gwylliaid a lladron.
21 of 41
ALIS: Gyda lladron mae’r peth yn siou sy’n tynnu tyrfa fwy na ffwl ffair…Wrth gwrs, rhaid dweud afe’n dawel tra bo’r offeiriaid yn gwrando’i gyffes neu’n ei fendithio a’i goroesi.
ALIS: Mi wleais fôr-leidr unwaith yn y Borth yn cellwair ar yr ysgol ac yn yfed at y dorf Ac wedyn wrth hongian yn cogio dawnsio â’i draed.
22 of 41
SIWAN: Ydyn nhw’n hir yn marw?

ALIS: Rhai’n hir, rhai’n fuan. Bydd rhai’n rhoi sbonc â’u traed wedi hongian hanner awr, mae’n dibynnu sut y teflir yr ysgol a sut gwlwm sydd ar y rhaff.
SIWAN: Santaidd Fair, dyro iddo lamu fel Gelert. Dos at y ffenest, Alis a dywed be’ sy’n digwydd.
23 of 41
ALIS: O ma dame, eich cariad chi ydy o
ALIS: Feddyliais i rioed weld crogi arglwydd gwlad Ddaeth yma i roi ei ferch yn briod i’r edling.
Mae o mor ifanc hefyd yn tasgu llawenydd O’i gwmpas el ffynnon yn byrlymu o chwerthin;
Fydd llys Gwynedd fyth yr un peth ar ôl heddiw.
24 of 41
TORF: Angau’r Ffrancwr – I grogi a’r Brewys
SIWAN: Dos at y ffenestr, ferch, neu mi hollta i’r gadwyn hon.
25 of 41
ALIS: ‘Fedrwch chi mo’i ddal o, ma dame.

SIWAN: Syrthia id dim mewn llewyg na gweiddi na gollwng deigryn...
Y DORF: Angau iddo…I’r crocbren â’r Brewys…I lawr â’r Ffrainc.
26 of 41
ALIS: Mor ffiaidd yw tyrfa…Druan ohonom, Uffern fydd ein priod eisteddfod
SIWAN: Sant Ffransis, gweddïa iddo gael ei ddwylo’n rhydd er mwyn iddo fedru neidio. Sant Ffransis a garai’r bleiddiaid, gweddïa dros fy mlaidd.
27 of 41
Y DORF: Brewys i’w grog… Crocbren i’r Brewys…
Y DORF: Angau iddo…I’r cythraul ag o…I ddiawl ag o…
28 of 41
SIWAN: Ydy o yno?

ALIS: Y Tywysog? Does dim cadair iddo ar y lawnt; Rhaid felly nad yw’n dyfod.
ALIS: Fe all weld y cwbl sy’n digwydd o’i ystafell…Mae’r dorf yn dawelach yn awr dan ei lygaid ef…”
29 of 41
SIWAN: Mair, feddia’i ddim gweddio. Wn i ddim sut mae gweddio….Mi groesawaf garchar am oes os caiff ef neidio.
ALIS: Dyma’r chew marchog o’r Ffrainc a ddaeth gyda Gwilym Brewys, Maen nhw’n rhodio ddau a dau mewn crysau duon.
30 of 41
Y DORF: I lawr â’r Ffrainc…Crocbren i’r Ffrainc…Cymru am byth…
ALIS: Rwan, rwan, dyma Esgob Bangor a’i lyfr gweddi, Ac yn syth ar ei ôl, dyma fo, Gwilym Brewys.
31 of 41
SIWAN: Sut olwg sydd arno?

ALIS: Llodrau a chrys amdano; mae o’n droednoeth, rhaff am ei wddw…Mae ei freichiau o’n rhydd a’i
ddwylo.
SIWAN: Ei freichiau a’i ddwylo’n rhydd! Fe all neidio, gall neidio!
32 of 41
SIWAN: Ydy o’n drist?

ALIS: O’u gweld nhw fe dd’wedech fod y Penteulu’n mynd i’w grogi A Gwilym Brewys lartsh yn ei dywys i’r grog.
Y DORF: Hwrê!...Hwrê!...Hwrê!... I grogi ag o…Cymru am byth…Cymru am byth…
33 of 41
SIWAN: Saint Duw sy’n meiddio gweddïo, gweddiwch drosto.
ALIS: Mae o’n ysgwyd llaw ag Ednyfed Fychan a’r Cyngor…Mae ganddo air i bob un, mae nhw i gyd yn chwerthin…
34 of 41
ALIS: Mae’r dorf yn fud, wedi ei syfrdanu…Does neb yn symud ond Gwilym.
ALIS: Mae o’n profi’r ysgol; Rwan mae o’n teimlo’r rhaff mae’n ei roi am ei wddw…Mae’n dringo fel capten llong i ben yr ysgol, ysmythu_
35 of 41
GWILYM: Siwan!
SIWAN: A’i dyna’r diwedd?
36 of 41
ALIS: Ond y naid a roes ef, y naid. Fe chwipiodd rhaff y grog fel gwialen bysgota, Taflwyd yr ysgol i ganol swyddogion y Cyngor…
ALIS: Rwan mae’r corff fel boncyff pren yn siglo wrth ei ddirwyn gan graen;
37 of 41
ALIS: Mae’n tynnu’n llonydd yn awr, yn llonydd a llipa (CYFLYTHRENNU)
ALIS: Mae’r dorf yn dylifo allan. Iddyn nhw mae’r siou ar ben a bu’n siom. Be wyddan, be falian nhw am weddw yn Aber-honddu, neu am wraig o garcharor yma.
38 of 41
ALIS: Gwahanglwyf yw poen, Ffau o dywyllwch yng ngolau dydd a dirgelwch.
ALIS: Does neb erioed a gydymdeimlodd â phoen…Ewch bobl i ddawnsio i’r delyn...Eisoes ar y twmpath yn canu Cymru am byth.
39 of 41
LLYWELYN: Tynnwch y gadwyn a’r hual oddi am ei throed. Mae’r perygl drosodd yn awr.
LLYWELYN: Mae’r cwbl drosodd yn awr…Feiddiwn ni ddim, a’i e? Feiddiwn id dim?
40 of 41
SIWAN: O waelod uffern fy enaid, fy melltith arnat Llywelyn.
Diwedd Act 2
41 of 41

Other cards in this set

Card 2

Front

SIWAN: Mae’r gadwyn yn drom, Alis, y ffasiwn Gymreig ar freichled.

Back

SIWAN: Teimlwch hi, clywch ei phwysau, pwysau digofaint tywysog.

Card 3

Front

ALIS: Pwysau ei siom, ma dame, mae ei siom ef yn ddwysach na’i ddig.

Back

Preview of the front of card 3

Card 4

Front

ALIS: D’wedodd y Tywysog na chedwir y gadwyn ond heddiw.

SIWAN: Pam heddiw ac nid ar ôl heddiw? A all heddiw newid fy myd?

SIWAN: Ef a’th ddanfonodd di yma?

Back

Preview of the front of card 4

Card 5

Front

SIWAN: Pam felly y caf i forwyn i wneud negesau yn awr? Oes rhyw newid i fod ar fy myd?

Back

Preview of the front of card 5
View more cards

Comments

Vesarian

Report

These are all acronyms that I don't know yet. They are specialized terms. Thanks to that, I can improve my vocabulary.

spacebar clicker 

Angelineoly

Report

This card makes me super excited like when I play trap the cat

Similar Welsh resources:

See all Welsh resources »See all Siwan resources »