Hanes Prydain Cwestiwn B

?

Cytunaf gyda'r safbwynt fod y prif ysgogwr y tu ol i ddiwygio'r cymdeithas oedd i ennill cefnogaeth wleidyddol, ond, mae rhaid ystyried yr ysgogwyr eraill megis yr economi ac ysgogwyr diwylliannol. 

Bu lawer o ddiwygiadau cymdeithasol gwleidyddol megis y diwygiadau Rhyddfrydol o 1906-1914. Yn 1906, pasiwyd Campbell-Bannermanm y Ddeddf Anghydfodau Llafur. Gan ddiwygio'r deddfau i wneud gyda'r undebau llafur, mae'n bosib dadlau fod yr undebau llafur a'i gweithwyr yn fwy tebygol o gefnogi'r Rhyddfrydwyr fel llywodraeth oherwydd hyn, ac felly mae hyn yn dangos fod "yr awydd i ennill cefnogaeth wleidyddol oedd y prif ysgogwr tu ôl i ddiwygio cymdeithasol". Bu'r Rhyddfrydwyr hefyd wedi diwygio deddfau ynglŷn â phlant gan greu'r Siartr Plant. Yn 1906 ac 1914, pasiwyd y Ddeddf Cinio i Blant Ysgol. Mae rhai haneswyr yn dadlau fod y llywodraeth wedi blaenoriaethu hyn oherwydd eu bydd yn ennill cefnogaeth o deuluoedd difreintiedig a thlawd. Am y tro cyntaf yn 1909, cyfyngwyd y Llywodraeth ar oriau gweithio i lowyr o dan y Ddeddf Pyllau Glo. trwy wneud hyn bydd y llywodraeth o bosib wedi ennill mwy a mwy o gefnogaeth o'r glowyr ac o'i deuluoedd, sy'n dangos unwaith eto fod y llywodraeth yn edrych am ennill cefnogaeth yn unig. Rhwng 1945 a 1951, bu'r llywodraeth Llafur hefyd wedi diwygio nifer o bethau yn gymdeithasol. Er enghraifft, yn 1945, bu'r Ddeddf Budd-dal Teuluol wedi pasio. Dangoswyd hyn fod y llywodraeth wedi ceisio cydnabod y cynnydd yn statws menywod gan eu bod yn ddaliadwy i'r fam. Gall hyn hefyd dangos fod y llywodraeth eisiau ennill cefnogaeth menywod, ac felly dyna beth sbardunodd y ddeddf hon. Credaf fod y cymhellion gwleidyddol i ennill mwy o gefnogaeth a sbardunodd y blaid i weithredu'n fawr iawn ar yr argymhellion a gosodwyd o fewn yr Adroddiad Beveridge yn 1944. Mae'n bosib dadlau fod y diwygiadau o fewn yr adroddiad oedd y mwyaf pwysig i Brydain fel gwladwriaeth les. Dywed y prif nod oedd "protection from the cradle to the grave". A thrwy weithredu ar y 5 cawr a gosodwyd gan Beveridge (eisiau, anwybodaeth, segurdod, budreddi ac afiechyd) llwyddodd y llywodraeth Lafur i ddiwygio llawer o'r gymdeithas. Yn 1946, pasiwyd y Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, ac erbyn 1950 bu dros 80% o feddygon yn gweithio iddyn. Trwy wneud hyn, sicrhaodd y llywodraeth fod mwy o feddygon yn mynd i'w cefnogi gan eu bod yn cael tal dibynnol a bod claf yn cael y gofal gorau posib. Ac felly, yn fy marn i, dyma beth sbardunodd y ddeddf hon. Dywed Churchill yn ystod cyfnod y consensws (o 1951 i 1980) "I have come to know the nation

Comments

No comments have yet been made