Cynllun Traethawd - Walkers' Wood

?

Cynllun Traethawd

Cyflwyniad:

- Crynhoi:

  • Mae twristiaeth yn rhan bwysig iawn o ddiwydiant Cymru. Mae nifer o drigolion pentrefi fel Betws-y-Coed yn dibynnu ar dwristiaeth ar gyfer eu bywoliaeth. Ond, yn ogystal â gwario eu harian yma, mae’r bardd yn honni fod twristiaid a’r mewnfudwyr hefyd yn gadael eu marc yn llythrennol ar ardal, a hynny oherwydd eu bod yn llygru drwy adael eu sbwriel ar ôl.

- Neges:

  • Bardd gwladgarol yw Myrddin ap Dafydd, ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y gerdd Walkers’ Wood yn ei ddicter tuag at dwristiaid sy’n newid yr ardal er gwaeth. Mae’n disgrifio ei hun fel dyn anfodlon ar adegau ac mae’r anfodlonrwydd hwn yn amlygu ei hun pan mae’n gosod pellter rhyngddo ef a’r cerddwyr trwy eu galw’n ‘rhai’ yn y geiriau Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.

- Themau:

  • Bygythiad i’n hetifeddiaeth
  • Dylanwadau estron

Canol:

- Cynnwys:

Sgwrs naturiol rhwng tad a mab wrth fynd am dro yw’r gerdd. Mae’r mab yn holi cwestiynau am yr hyn mae’n ei weld o’i amgylch ar ddechrau pob pennill ac yna mae’r tad yn ei ateb yn ail hanner y penillion. Adlewyrchir natur chwilfrydig y mab yn y cwestiynau niferus yma. Mae’r ffaith fod y bardd yn dewis odli gair Cymraeg ‘Taid’ gyda’r gair Saesneg ‘Guide’ yn pwysleisio dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg. Mae’n eironig bod y lle yn cael ei alw’n ‘Walkers’ Wood’ yn hytrach na ‘Coed Llugwy’ yn y llyfryn oherwydd dyma brawf pellach o ddylanwad negyddol y twristiaid ar yr ardal. Mae’r enw ‘Coed Llugwy’ yn ein hatgoffa mai natur a roddodd yr enw ar y lle hwn yn wreiddiol ond bod rhywun, trwy geisio cyfieithu’r enw hyfryd hwn, wedi tynnu sylw at ddylanwad dyn ar yr ardal yn yr enw ‘Walkers’ Wood’. Mae cyferbyniad rhwng y ddau enw yma…

Comments

No comments have yet been made