Theoriau am drosedd

?

Cyflwyniad - 3 esboniad am drosedd

Dros y blynyddoedd mae nifer o theoriau am drosedd wedi codi ymysg rhain yw'r theoriau:

  • Biolegol
  • Seicolegol (SFP yn bennaf)
  • Cymdeithasol

Biolegol (Genynnau a Hormonau) - Gall genynnau effeithio ar y ffordd y byddwn yn ymddwyn rwy newid, e.e. lefelau ein hormonau a/neu niwrotroglwyddwyr

Seicolegol - Awgrymu sawl persbectif e.e bod trosedd yn ganlyniad i ddarogan hunan gyflawnol (self-fulfilling prophecy). 

Cymdeithasol - ymdygiad yn cael ei ddylanwadu gan gymddeithas sy'n arwain at drosedd

1 of 15

TUDALEN GWAG

Nodiadau adolygu Morgan Savoury

2 of 15

Canlyniadau Mednick et al. (1987)

Tabl sy'n dangos canlyniadau astudiaeth Mednick et al. gyda dros 14,000 o blant mabwysiedig 

Rhieni gyda record troseddol               % O feibion gyda record troseddol 

Dim un                                                                                 14%

Biolegol yn unig                                                                 20%

Mabwysiadol yn unig                                                          15%

Biolegol a mabwysiadol                                                     25%

AA2SAMPL MAWR CYNRYCHIOLAIDD OND TUEDD DIWYLLIANOL (Falle ddim yngynrychiolaidd gan ei fod o diwylliant an-orllweinol DENMARK) 

3 of 15

Theori Biolegol am drosedd

Patrymau teuluol - Debygol bod ffactorau biolegol yn cymryd rhan mewn drosedd gan ei fod yn tueddu i redeg mewn teuluoedd. 

OSBORN & WEST (1979) - Dim ond 13% o feibion i dadau heb fod yn troseddol oedd a dyfarniadau (convictions) i gymharu a 20% o feibion gyda tadau troseddol.

AA2: TUEDD RHYWEDD (Ond yn defnyddio sampl o bechgyn, ddim yn gallu cyffredinoli i'r holl boblogaeth yn yr modd hon) 

Mae astudiaethau mabwysiadu yn caniatau i seicolegwyr wirio a yw patrymau o'r fath yn ganlyniad i genynnaur plentyn neu'r amgylchedd y cartref. 

  • Ymddygiad plentyn yn debyg i ymddygiad eu rhieni biolgeol (ENETIG)
  • Ymddygiad plentyn yn debycach i ei rhieni mabwysiadol (TROSEDD YN DELIO O'R AMGYLCHEDD)

AA2: Gallu fod yn anodd gwahanu effeithiau gennynol o effeithiau amgylcheddol. Anodd feindio sampl fawr o effeilliaid monosygotig sydd wedi ei magu ar wahan.  FATERION: Teuluol yw fod gwybodaeth sensetif, personol (rhaid fod yn waliadwrus "wary") Mabwysiadol bod angen caniatad gwybodus er mwyn edrych ar record troseddol i sicrhau cyfrinachedd data.

 

4 of 15

Theori Biolegol am drosedd (2)

Genynnau troseddol?

Retz et al. (2004) - Darganfod fod berthynas rhwng un amrywiolyn gennyn sbesifig (5-HTTLPR) ag ymddygiad ymosodol. Cysylltwyd gennyn arall, NOS 1  gydag ymosodedd mewn anifeiliaid --> astudiaeth Reif et al. (2009) 

Reif et al. (2009) - Astudio'r cysylltiadau rhwng byrbwylltra (recklessness) (sy'n gallu fod yn ffactor mewn trosedd)  ag amrywiolynnau o'r gennyn NOS 1 mewn dynolryw.

  • Bu un amlrywiolyn o'r gennyn yn fwy aml mewn oedolion gyda lefel uchel o ymddygiad ymosodol tuag at yr hunan ag eraill.
  • Darganfod bod gan y pobl sydd a'r amrywiolyn yn y gennyn gyda lai o weithgaredd yn y cortecs cylchwynol anterior (ymwneud ag emosiwn a gwobr) drwy archwilio gweithgaredd ymenyddol yr unigolion

GOLYGU: Gallai'r gennyn cael effaith ar reolaeth dros ymddygiad byrbwyll

AA2 : Ddamcaniaeth geneteg gyda nifer o ddifygion, byddai'n anfoesol i atal atgynhedlu mewn pobl sydd a genynnau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol, yn ogystal bydd roi gwybod i nhw amdanynt yn gallu arwain at labelu ag yna ddarogan hunan gyflawnol. 

5 of 15

Theori Biolegol am drosedd (3)

RÔL HORMONAU - Ceir hormon TESTOSTERON mewn y ddau ryw, ond mae oedolion gwryw yn cynhyrchu tua 2x mwy o'r hormon na fenywod

Dargynfyddiadau Dabbs et al. (1995)

  • Carchororion oedd yn euog o droseddau ymosodol a lefelau uwch o Testosteron na'r rhai yn euog am droseddau anymosodol. 
  • Dabbs a Hargrove (1997) yn darganfod yr un berthynas mewn carcharorion benywaidd gan awgrymu bod lefel hormonau yn ffactor allwedol mewn ymddygiad troseddol.

RÔL NIWROTROSGLWYDDWYR 

Valzelli (2005) - Astudio anifeiliaid wedi dangos bod trosiant isel SEROTONIN (pa mor gyflym bydd yr niwrotrosglwyddwr yn cael ei ailgylchu ar ôl ei defnyddio) yn gysylltiedig a ymosodedd

Virkkunen et al. (1987-89) - Darganfod fod troseddwyr ymosodol hefyn gyda lefel trosiant isel o Serotonin, a fod nhw hefyd yn fwy tebygol o gyflawni troseddau ymosodol pellach wedi iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar 

6 of 15

Theori Seicolegol am drosedd (SPF)

Darogan hunan-gyflawnol (Self-fulfilling Prophecy)

  • Awgrymu gall stereoteipiau arsylwr effeithio yr un a arsylwir.
  • Os yw arsylwr yn dal ffug gredoau ynghylch person neu grwp cymdeithasol, gall y credoau hyn newid sut bydd yr arsylwr yn ymddwyn a gall achosi i ymateb mewn ffyrdd sydd yn debygol o ennyn yr ymddygiad a disgwyliadau o'r uniolyn a arsylwir.
  • Byddai hyn yn cadarnhau disgwyliadau ac ategu'r stereoteip

e.e. Ystyried sglefr-fyrddio yn dihyryn byddai'n arwain at

  • Ymddwyn yn negyddol tuag at unrhyw berson ifanc gyda sglefr-fwrdd; osgoi, gweiddi arnynt a drwgdybio eu gweithgareddau
  • Labelu rhai pobl ifanc ar gam 

Borden (2001) - Cyfryngau'n labelu Skaters fel "diafoliaid y werin" arwain at SFP

Rosenthal & Jacobson (1968)Wedi darganfod bod perfformiad disgyblion yn y dosbarth yn gwella os oedd gan athrawon disgwyliadau uwch am disgyblion yna. Pa wnaeth athrawon yn disgwyl disgbl i dangos cynydd deallusol uwch fe wnaethon nhw mewn gwirionedd. SFP mewn sefyllfa realistig 

7 of 15

Theori Seicolegol am drosedd (2) SFP

Cymhwysiad i drosedd - SFP yn awgrymu bod disgwyliadau negetif yn achosi unigolion i ymddwyn tuag at eraill mewn ffyrdd sydd yn ennyn ymdygiad troseddol am fod eu stereoteipiau yn newid rhyngweithio cymdeithasol. 

e.e. Myryrwraig newydd yn cyrraedd neuadd breswyl brifysgol newydd

  • Edrych yn llechwraidd (insidious)
  • Myfyrwyr eraill yn ei thrin yn ddrwgdybus (suspicious) gan ei bod yn cuddio llaeth yn cefn yr oergell a gwrthod rannu
  • Sylwi bod nhw yn trin hi'n wahanol --> ymateb drwy beidio a malio (care) beth maent yn meddwl gan gymryd beth mae hi eisiau or oergell
  • Ymateb gwreiddiol y myfyrwyr felly wedi ysgogi ei lladrad (theft), sydd yn cadarnhau eu disgwyliadau gwreiddiol

Atgwympo - SFP yn esbonio atgwympo (recidivism). Unwaith byddwch wedi labelu yn 'droseddol' gan rhywun, mae'n anodd cael gwared a'r ddelwedd, gan fod pobl eraill yn ei hategu drwy ymddygiad tuag at troseddwr. Felly daw yn rhan o hunan-gysyniad (self-concept) rhywun gan gynhyrchu ymddygiad gwyredig (deviant) pellach 

8 of 15

Theoriau gymdeithasol am drosedd

Theori Dysgu Cymdeithasol BANDURA (1977)

Rhaid i'r arsylwr ;

  • Dalu sylw 
  • Gallu cofio a ailwneud yr hyn a arsylwyd
  • Gyda chymhelliad i ailwneud ei ymddygiad 

Gall cymhelliant fod yn ALLANOL neu'n MEWNOL

Allanol - dod o atgyfnerthiad uniongyrchol megis buddiannau a geir o ladrata neu atgyfnerthiad dirprywol (gweld model rhol yn elwa o'i ymddygiad).

Mewnol hefyd yn gallu ddeillio o uniaethu gyda'r model e.e.

Darganfu Bandura et al. (1961) fod plant yn fwy tebygol o ddynwared modelau o'r un rhyw a nhw. 

9 of 15

Theoriau gymdeithasol am drosedd (2)

Cymhwysiad yr ThDC i drosedd 

Plant sydd a rhieni yn droseddwyr, neu sydd wedi hamgylchu a modelau rol eraill droseddol, yn fwy tebygol o fod a chymhelliant mewnol ac allanol i ddynwared yr ymddygiad

Gweld oedolion yn elwa o'u troseddau (e.e gwario arian a ddygwyd/ fwynhau ymddygiad troseddol) fe cawn nhw cymhelliad allanol i'w dynwared 

Uniaethu ar model rhol am bod o statws uchel --> Cynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn dynwared yr ymddygiad troseddol. 

Gwahaniaethau unigol

  • Nodweddion personol y dysgwr hefyd yn cyfrif
  • Unigolion gyda hunan werth isel yn fwy tebygol o ddynwared 
  • Hunan gwerth isel yn gysylltiedig gyda ymddygiad troseddol
10 of 15

GWERTHUSO : Theori Biolegol am drosedd

A yw patrymau teuluol yn fiolegol? 

Bohman (1996) : Cefnogi darganfyddiadau MEDNICK et al. sydd yn ategu'r (support) theori biolegol.

Darganfu fod 12% o feibion a record troseddol gyda rhiant biolegol oedd yn droseddwr o gymharu a 7% oedd a rhiant mabwysiadol gyda rhecord troseddol. 

Hyd yn oed pan oedd y rhieni mabwysiadol yn gwybod am hanes teuluol o drosedd y plentyn, nid oedd hyn ag unrhyw effaith are eu ymddygiad sy'n awgrymu fod ffactorau genetig yn fwy o bwys (more significant) nag unrhyw SFP

Cysylltiad rhwng gennynau & niwrotrosglwyddwyr 

Er mwyn i gennynau gweithio, rhaid iddynt weithredu drwy fecanwaith, megis strwythur neu weithrediad yr ymenydd

Retz et al (2004)  gennyn 5HTTLPR yn rheoli agweddau o brosesu Seretonin, felly gallai'r fath gysylltiad fodoli am ymddygiadau ymosodol a byrbwyll a feindiodd gwaith Valzelli (1973) a Virkkunen (1987) 

11 of 15

GWERTHUSO : Theori Biolegol am drosedd (2)

Cymhwysiadau defnyddiol  - Caiff lefelau Seratonin eu heffeithio gan y diet gan ei fod yn cael ei gynhyrchu yn y corff o'r asid amino trytophan, ond mae lefelau uchel o asid amino ffenylanin yn gwneud cynhyrchu Serotonin yn anodd. 

Moeller et al. (1996) Darganfod fod dynion ar diet anghytbwys yn  mynd yn fwy ymosodol yn fuan ar ol bwyta. Mae'r melysydd artiffisial aspartam (nutrasweet) yn arbennig o uchel mewn Ffenylanin ac yn isel mewn Trytophan a dylai cael ei osgoi gan pobl gyda thueddiadau ymosodol. 

Dim ond Biolegol  Llawer o'r dystiolaeth sydd yn ategu'r theori fiolegol (megis gwaith Dabbs ar hormonau) yn cynnig dim ond patrymau cymharol wan, sydd yn awgrymu bod ffactorau eraill (megis yr amgylchedd) hefyd o bwys. 

Felly, er ei fod yn ymddangos bod dylanwad genynnol ar ymddygiad troseddol, nid yw'n esboniad cyflawn. 

Mae'n bosib bod yna ennynau 'troseddol' pellach sydd eto i'w darganfod, fyddai'n cryfhau'r achos biolegol. 

12 of 15

GWERTHUSO: Theori Seicolegol am drosedd

Rhieni problematig?

Mandon et al. (2003) asesu disgwyliadau mamau am arferion yfed o dan oedran eu phlant yn eu harddegau. Pan oedd mamau yn credu byddai'r plant yn yfed mwy, roedd y disgwyliad hwn yn debygol o gael ei gyflawni

AA2: Gallai'r mamau rhagfynegi ymddygiad eu phlant yn dda iawn, yn hytrach nag achosi'r ymddygiad eu hunain. 

Cymhwysiad defnyddiol  Gan fod disgwyliadau negyddol yn effeithio ar hunan-gysyniad (self-concept) unigolion, gall hyn gynyddu'r tuedd tuag at drosedd. Dylem felly osgoi labelu plentyn fel 'problem' oherwydd gall gwaethygu ei ymddygiad.

13 of 15

GWERTHUSO: Theori Cymdeithasol am drosedd

AA2: Arbrofion labordy fel eiddo Bandura ddim yn cynrychioli caffaeliad (acquisition - something you've required) ymddygiad troseddol mewn bywyd go iawn.

Tystiolaeth byd go-iawn Defnyddio data cydberthynol ynghylch amlygiad (exposure) i fodelau yn y cyfryngau ac ymddygiad troseddol

Eron et al. (1972)  Darganfod fod gydberthyniad posetif rhwng y lefel o ymosodedd mewn rhaglenni teledu a wyliwyd gan plant 7-8 oed a'u ymddygiad ymosodol. Harddegaugryfach byth mewn bechgyn 

Eron a Huesmann (1986)  Oedolaeth - Y fwyaf o ymosodedd a welsai'r dynion ar y teledu fel plant, mwyaf tebygol oedden nhw o fod yn droseddwyr ymosodol

AA2: CYDBERTHYNIAD NID ACHOS AC EFFAITH

Sensro teledu: Cymhwysiad defnyddiol - trothwy amser naw o'r gloch a dosraniadau ar gemau a filmiau. Darganfyddiadau dysgu cymdeithasol wedi dangos pwysigrwydd rheoli amlygiad (exposure) plant i fodelau. 

14 of 15

Effeithiau teledu ar ymddygiad gwrth gymdeithasol

Cyflwyno teledu i gymunedau a'i canlyniadau 

Arbrofion naturiol yn cynnig prawf byd go-iawn am theori dysgu cymdeithasol:

  • Wedi arsylwi ar lefelau o ymddygiad gwrthcymdeithasol cyn ac ar ol cyflwyno teledu i gymunedau anghysbell (distant)
  • Dangos modelau ymosodol nas gwelwyd cyn hynny mewn cymdeithas frodorol (native community)

Williams (1981) Canada - lefel ymosodedd corfforol a geiriol plant mewn tref yn Canada bron wedi DYBLU yn dilyn cyflwyniad teledu i'r ardal 

Lefel ymosodedd mewn trefi eraill wedi cynyddu hefyd dros yr un cyfnod, roedd hyn yn llai amlwg gan awgrymu bod gwahaniaeth yn ganlyniadau i fodelau ar y teledu 

Gwrthgyferbyniad :Charlton et al. (2000) dim gynydd mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn dilyn cyflwyno teledu i ynys St. Helena. Awgryma hyn nad yw cyfleuoedd am ddysgu cymdeithasol yn arwain at ymddygiad negyddol. Llaw arall : St Helena yn gymuned gyda normau sy'n nodedig (noteable) o blaid cymdeithas, gallai hyn esbonio pam bod y plant wedi effeithio llai gan teledu. 

15 of 15

Comments

No comments have yet been made

Similar Psychology resources:

See all Psychology resources »See all Criminological and Forensic Psychology resources »