Rol yr Amygdala

?
  • Created by: Mooskey
  • Created on: 02-03-17 14:28

Cefndir y Esboniad

  • Ymchwil yn awgrymu bod ymddygiad troseddol a gwreiddiau biolego.
  • Wedi arwain at ddatblygiad maes niwrotroseddeg, sef deall ymddygiad troseddol mewn termau'r achosion niwrolegol yn yr system nerfol (Glenn a Raine, 2014) 
  • Achosion hyn yn fwy amlwg mewn troseddau sy'n cynnwys elfen ymosodol.
  • Credu fod dau prif fath o ymddygiad ymosodol.
    • Ymosodedd Blaengar - 'gwaed oer' - wedi'i gynllunio a'i fyfyrio o flaen llaw
    • Ymosodedd Ymatebol - 'gwaed poeth' - yn llawn dicter ac yn cyd-digwydd gyda chyffro ffisiolegol.
  • Ddau yn digwydd mewn sawl ymddygiad ymosodol.
  • O'r strwythurau niwrobiolegol yn y system nerfol sy'n ymwneud ag ymosodedd, mae'r rhan fwyaf o ymchwil wedi ffocysu ar ran o'r ymennydd a elwir y Amygdala
1 of 8

Strwythur a Swyddogaeth yr Amygdala

  • Mae'r amygdala yn strwythur yn yr ymennydd sydd wedi ei wneud allan o gasgliad o gelloedd niwronau wedi eu cywasgu at ei gilydd mewn clwstwr o 13 niwclews.
  • Wedi ei lleoli yng ngahnol llabed yr arlais ac yn rhan o'r system limbig.
  • Dau amygdala - un yn mhob hemisffer.
  • James Papez (1937) - cyntaf i gwneud y cysylltiad rhwng yr amygdala ac ymddygiad emosiynol.
    • Ac yna gan Paul Maclean (1952)
  • Amygdala wedi gysylltu at y hypothalamws, y hippocampws a'r cortecs cyndalcennol, a rhannau eraill o'r ymennydd.
  • Cael dylanwad mawr ar weithgaredd yr ymennydd, ar ymddygiaddau sy'n gysylltiedig gydag emosiwn, ysgogiad rhyngweithiad cymdeithasol mewn pobl ac anifeiliaid eraill.
  • Chwarae rhan pwysig yn y ffordd yr ydym yn asesu ac yn ymateb i fygythiadau o'r amgylchfyd, ac felly yn pwysig wrth benderfynnu ymddygiad ymosodol.
2 of 8

Yr Amygdala ac Ymosodedd

  • Emil Coccaro et al (2007)
    • Effaith yr amygdala ar ymosodedd drwy astudio pobl oedd yn dioddef o anhwylder ffrwydrol achlysurol (IED), lle mae'r unigolyn yn cael pyliau o ymosodedd adweithiol.
    • Cyfranogwyr yn gwylio lluniau o wynebau ar y sgrin a chael sgan MRI o'u hymennydd ar yr un pryd.
    • Gwhaniaeth allweddol rhwng y grwp IED a'r grwp rheoli.
    • Grwp IED - lefelau uchel o actifedd yn yr amygdala pan welon nhw wynebau dig.
    • Cysylltiad rhwng gweithgaredd yr amygdala a phrosesu emosiynau ymosodol
    • Dangos realaeth uchel am fod wyneb ddig yn arwydd pob dydd dydd o fygythiad 

(Tystiolaeth cefnogol)

3 of 8

Yr Amygdala a Chyflyru Ofn

  • Un mecanwaith posibl i esbonio sut mae diffygiad weithgaredd yr amygdala yn effeithio ar ymosodedd, a thrwy hynny ar ymddygiad ymosodol, wedi ei gynnig gan Yu Gao et al (2010).
  • Plant yn dysgu i atal ein ymddygiadau ymosodol a gwrth-gymdeithasol drwy gyflyru ofn. 
    • Rydym yn dysgu bod ein ymddygiadau ymosodol yn arwain at gosb neu ganlyniadau negyddol eraill.
  • Amygdala diffygol yn golygu nad yw'r plentyn yn gallu adnabod ciwiau cymdeithasol sy'n cyflwyno bygythiad, ac felly nid yw'n cysylltu cosb gyda'r ymddygiad ymosodol. 
  • Broses o gyflyru ofn wedo ei difetha a'r cynlyniad yw bod y plentyn yn ymddangos yn ddi-ofn, yn or-ymosodol ac yn wrth-gymdeithasol.
  • Dangosodd yr ymchwillwyr hyn mewn astudiaeth hydredol lle profwyd am gyflyru ofn mewn 1,795 o gyfranogwyr pan oeddnt yn 3 mlwydd oed.
    • Mesurwyd cynhyrfiad ffisiolegol fel ymateb i swn poenus.
    • 20 blwyddyn yn ddiweddarach, astudiwyd faint o'r cyfranogwyr wedi troi yn droseddwyr.
    • unigolion oedd wedi troseddu ddim wedi dangos unrhwy gyflyru ofn pan oeddynt yn 3 blwydd oed.
  • Awgrymu y gallai fod perthynas o achos a effaith rhwng y amygdala diffygol ac ymddygiad troseddol/ gwrth-gymdeithasol.
  • Person yn cael ei geni yn troseddol?
4 of 8

Cefnogaeth o Dystiolaeth Astudiaethau (+)

  • Katrina Gospic et al (2011) 
    • Defnyddio y gem 'Ultimate Game', dull labordy o fesur ymosodedd.
    • Dau chwaraewr, y Cynigydd a'r Ymatebwr a swm o arain.
    • Cynigydd yn cynnig rhannu'r arian mewn ffordd 'deg' neu 'anheg'.
    • Os yw'r Ymatebwr yn derbyn, yna bydd y arain yn cae ei rhannu yn unol a'r y ddewis.
    • Ond os yw'r Ymatebwr yn gwrthod, nid yw'r ddau yn cael dim. 
    • Gwrthod cynnig yn cael ei weld fel ymddygiad ymosodol. 
    • Cyfranogwyr yn chwarae rol y Ymatebwr tra derbyn sgan MRI.
    • Pryd roedd y Ymatebwr yn gwrthod cynnig annheg, sganiau MRI yn dangos actifedd yn yr amygdala oedd yn uwch ac gyflymach.
    • Os rhoddwyd cyffur tawelu i'r chwaraewyr cyn y gem, gwelwyd dau effaith:
      • Ymosodedd yn lleihau - hanneri'r nifer o wrthodiadau
      • Gostyngiad yn actifedd yr amygdala
  • Dystiolaeth cryf drs y cysylltiad rhwng ymosodedd a chynnydd yn actifedd yr amygdala.
  • Dilysrwydd = ydy'r ymchwil yn wir yn mesur beth mae fod mesur sef ymddygiad troseddol.
5 of 8

Cefnogaeth o Astudiaethau Hydredol (+)

  • Dustin Pardini et al (2011)
    • 503 o ddynion oedd yn rhan o astudiaeth flaenorol yn 1986 -1987, pan oeddynt yn 6 neu 7 mlwydd oed.
    • 20 blwyddyn yn ddiweddarach, adnabu'r ymchwilwyr is grwp o 56 o ddynion oedd yn dangos ymddygiad ymosodol ers eu plentyndod, gan gynnwys ymwneud a ymosodedd difrifol.
    • Sganiau MRI i fesur maint yr amygdala yn y ddynion.
    • Perthynas rhwng lefelau uchel o ymosodedd dros y cyfnod o 20 mlynedd a chyfaint bach y amygdala.
    • Yr un perthynas yn astudiaeth arall 3 blwyddyn yn ddiweddarach.
    • Newidynnau allanol ddim wedi effeithio'r canlyniadau, gan fod nhw wedi cael ei rheoli. 
  • Cefnogaeth gryf i rol y amygdala mewn ymddygiad ymosodol, ac mae'n werthfawr gan fod dystiolaeth dros dystiolaeth dros dilysrwydd rhagfynegol yr esboniad.
  • Dangos gall gwhaniaethau mewn cyfaint yr amygdala ragfynegi ymddygiad ymosodol a throsedd yn y ddyfodol.
6 of 8

Mae Rhannau Eraill o'r Ymennydd yn Bwysig (-)

  • Amygdala yn rhan o'r system ehangach o strwythurau cysylltiedig yn yr ymennydd, ac nid yn gweithio ar ben ei hunain.
    •  Rhan o'r cortecs orbito-flaen - sydd wedi lleoli yn y cortecs cyndalcenol
    •  Credu fod yn cael dylanwad ar hunan-rheolaeth, yn rheoli ymddygiad mympwyol ac yn rhwystro ymosodedd.
  • Adrian Raine et al (1997)
    • Astudiodd llofruddwyr oedd wedi defnyddio graddfa uchel tu hwnt o ymosodedd adweithiol (gwaed- poeth) yn eu troseddau. 
    •  Unigolion yn cael fetabolaeth glwcos uwch yn eu amygdala
    • Ond actifedd anarferol o isel yn eu cortecs cyndalcennol
    •  Dangos pa mor gymhleth yw’r rheolaeth o ymddygiad troseddol ymosodol
    •  Ymwneud ag o leiaf tri strwythur pwysig yr ymennyddol
      • Yr Amygdala
      • Yr OFC 
      •  Cysylltiadau niwronal  rhyngddyn nhw.
  • Amygdala diffygiol ar ben ei hunan o bosib ddim yn digon i esbonio ymddygiad troseddol
  • Niwroleg trosedd ymosodol yn gymhleth ac mae risg o or-symleiddio’r mater os ydym yn canolbwyntio ar y amygdala yn unig.
  • Ymddygiad troseddol yn ganlyniad i nifer o ddylanwadau sy’n ymwneud a’r cysylltiadau niwron rhwng sawl strwythur ac ardal yn yr ymennydd.
7 of 8

Mae Effeithiau'r Amygdala yn Anuniongyrchol (-)

  • Amygdala yn cael rol mewn rheoli ymddygiadau sy'n ymwneud ag ofn a phryder, er enghraifft y cyffro ffisiolegol sy'n dod yn sgil yr ymateb ymladd- ymyrrid.
  • Niwed i'r amygdala yn effeithio'r gallu i brosesu ofn a phryder mewn ffordd normal - yn ei dro yn effeithio'r gallu i weithredu'n gymdeithasol.
  • Gwneud ymddygiad troseddol yn fwy tebygol, ond ddim ynanghenraid yn anochel.
  • Amygdala ddiffygiol yn ffactor risg dros ymddygiad troseddol, ond nid yw anghenraid yn ei achosi yn uniongyrchol.
  • Os mae unigolyn yn dangos ymddygiad troseddol mae'n o ganlyniad i ffactorau biolegol ac amgylcheddol.
  • Esboniad mwy cymleth na'r theori gonfensiynol o ddiffygiad yn yr amygdala.
8 of 8

Comments

No comments have yet been made

Similar Psychology resources:

See all Psychology resources »See all Stress resources »