24 Marc Gwrthryfeloedd

Gwrthryfeloedd Cyfnod y Tuduriaid

?
  • Created by: Rhian
  • Created on: 05-05-12 12:22

Achosion Gwrthryfel Rhys ap Gruffudd 1529

Penodiad yr Arglwydd Ferrers: Danfonwyd Walter Devereux gyda Mari i arwain Cyngor Cymru a'r Gororau yn sgil anrhefn yng Nghymru a chyfundrefn Argwyddiaethau'r Gororau ac etifeddodd teitlau Rhys ap Thomas ac roedd yn lleihau pwer y Cymrya'i deuluoedd bonheddig a gosod awdurdod. 

Materion Etifeddiaeth: Rhys ap Gruffudd yn disgwyl etifeddu'r teitlau ond y tir yn unig gafodd ac roedd am i'r swyddi gael eu dal gan Cymry ac i aros yn ei deulu, a nid mynd i Sais. Bu Rhys yn cymryd yn Ganiataol bydd y perthynas da ei dad cu gyda'r Tuduriaid yn parhau rhynddo ef.

Rol Rhys ap Thomas: Chwarae rol allweddol wrth helpu Harri Tudur ennil brwydr Bosworth trwy sicrhau cenfogaeth Cymru ac i beidio cefnogi Rhisiart III er ei gysylltiad. Bu'n ffyddlon iawn ac apwynitwyd yn is-gapten i'r Brenin, Stiward Brycheiniog a Llanfair ym Muallt, Siamberlain De Cymru. Allweddol i atal wrthryfeloedd Harri VII e.e. Brycheiniog 1486 a Simnel 1487.

Crefydd: Rhys yn Gatholig ac yn gwrthwynebu Diwygiad Harri VIII ac yn erbyn Anne Boleyn

1 of 10

Pam fethodd gwrthryfel Rhys ap Gruffudd 1529?

Diffyg Cynllunio ac Arweiniad: Dim cynllun mawr ganddo i wrthryfela ond gwylltio a rhuthro i Castell Caerfyrddin a bygwth Ferrers gyda cyllell heb gynllyn o sut byddai'n ceisio datrys y sefyllfa na rhestr o ofynion, na dim ymgais i gasglu byddin na chefnogaeth enfawr cyn mynd i'r Castell.

Ymateb y Llywodraeth: Arestiwyd Rhys yn syth yn y Castell ai ddal yn y carchar yno. Cyhuddo o gynllwynio gyda Iago V i ddisodli Harri VIII. Dim tystiolaeth o hyn heibio hen deuluoedd Cymru yn mabwysu'r enw Fitzurien ond defnyddwyd i hyn i'w gyhuddo am deyrnfradwriaeth a'i dal yn nhwr Llundain. Tebygol bod Harri am gael gwared o'r fygythiad gan fod Rhys yn berchen ar diroedd gwerthfawr a Harri am gael rhein er lles ei bwer a chyfoeth, ac yn casau Rhys gan ei fod yn cefnogi Catrin o Aragon.

Diffyg Cefnogaeth: Wedi mynd y Gastell Caerfyrddin gyda 40 o gefnogwyr yn unig. Catrin Howard wedi casglu rhai canoedd o gefnogwyr a bygwth llosgi gatiau'r castell os na rhyddhawyd Rhys ond gwrthododd. 

2 of 10

Achosion Gwrthryfel Aske 1536

Crefydd: Cau'r mynachlogydd yn amhoblogaidd iawn gyda'r bobl gan ei fod yn ganolfan i'r gymdeithas, a'r pobl yn cydymdeimlo gyda'r mynachod oedd nawr yn dlawd ac yn ddi-waith gyda braidd dim pensiwn. Aske yn galw'r gwthryfel yn enw crefydd er mwyn sicrhau cefnogaethac yn protestio yn erbyn hereticiaid (materion yn allweddol), Pererindod yn awgrymu ffactorau crefyddol. Gwrthryfelwyr yn gwisgo symbol Pump Craith Crist ac yn tyngu llw gwrthryfel yn enw Crist.

Economaidd: 2 erthygl yn y Maniffesto yn ofynnol am economi. Diwygiad yn gosod treth ar fedyddio, priodas ac angladd gan achosi pryder mawr yn Ardal y Llynoedd a pobl yn teimlo ni ddylai'r brenin disgwyl mwy o arian. Statud y Defnyddiau 1536 yn gorfodi i'r bonedd talu treth wrth etifeddu tir a'r Dirwy Mynediad yn gorfodi i etifedd tir dalu treth i'r tirfeddianwyr er mwyn etifeddu'r hawl i rhentu'r tir felly bob haen gymdeithas am gwrthryfela.

Gwleidyddol:  Polisiau Thomas Cromwell yn amhoblogaidd iawn - cryfhau rheolaeth y llywodraeth dros Lloegr a'r gwrthryfelwyr yn ei feio am polisiau crefyddol 30au. Gogledd yn teimlo cael ei anwybyddu gan y llywodraeth ganolog ac yn galw am senedd ei hun - Cromwell ddim yn fonedd felly ddim yn gymwys. Harri VIII rhoi pwysau ar Henry Percy i nodi ef fel etifedd gan leihau pwer y teulu Percy.

3 of 10

Pam fethodd Gwrthryfel Aske 1536?

Diffyg arweiniad/cynllunio: Aske yn cael ei adnabod fel prif arweinydd ond gellir dadlau taw cyfres o wrthryfeloedd lleol ac nid un mawr oedd y Pererindod - arweinwyr i bob ardal e.e. Thomas Percy yn Beverly a pob un gyda amcanion eu hunain. Gwrthdaro cymdeithasol a cystadleuaeth rhwng y bonedd a oedd yn gosog agenda eu hunain ac yn dylanwadu'r Werin. Aske yn amharod i wneud penderfyniadau ac yn rhoi amser i Harri VIII ymateb e.e. penderfynu dros y pardwn.

Ymateb y llywodraeth: Harri yn danfon Dug Norfolk i drafod a'r gwrthryfelwyr a gwrando ar ei gwynion gan rhoi amswer iddo gynllunio a gweithredu. Cynnig pardwn ac yn gaddo i drafod ag Aske yn Llundain ac ystyried ei sefyllda ond dechreuodd yr ymladd eto a daliwyd Aske gan ei garcharu yn Nhwr Llundain. Euog o deyrnfradwriaeth a crogwyd yn gyhoeddus yn Efrog yn y Gogledd i rhybuddio pobl am gwrthryfela yn erbyn y goron.

Diffyg Cefnogaeth: Uwchfonedd y Gogledd megis Norfolk heb ymuno felly'n llai o fygythiad i Harri VIII. Y Gadwyn Bod yn atal cefnogaeth eang - dosbarthiadau is yn teimlo nid eu lle nhw oedd i wrthryfel yn erbyn y brenin a'r brenin yn ystyried ei rol ef oedd i ddymchwell wrthwynebiad gan haenau is.

4 of 10

Achosion Gwrthryfel Kett 1549

Economaidd: Prif pwnc dadl maniffesto Kett oedd amgau tir - iwmyn a bonedd yn amgau tir yn y chwyddiant uchel ar gyfer defaid gan atal y ffermwyr llai rhag dyfu a gwerthu cnydau. Comisynydd yn ymchwilio i fewn i hyn gan wylltio'r haenau uwch. 40au hwyr yn gyfnod ansefydlog i'r diwydiant tecstiliau a economaidd gwael yn dilyn cynhaeaf gwael 1548. Tirfeddianwyr yn cynyddu rhent y bobl o ganlyniad i'r chwyddiant uchel oedd yn ychwanegu at eu caledni. 

Gwleidyddol: Somerset yn cael ei adnabod fel y Dug Da ac ei bolisiau yn cydymdeimlo gyda'r tlodion felly gwrthryfelwyr yn fwy hyderus o'i gefnogaeth ac yn fwy parod i leisio barn e.e. cael pardwn yn dilyn dymchwel ffensiau Flowerdew a'r treth uwch ar ddefaid mewn tir amgaeedig. Amhoblogaidd - parhau a rhyfel yn yr Alban yn cynyddu'r chwyddiant. Llywodraeth lleol ddim yn gwneud digod ac yn aelio i'r llywodraeth ganolog i ymateb.

Crefyddol: Protestaniaeth amlwg yn Mousehold Heath e.e. defnyddio'r Llyfr Gweddi Cyffredin ac eisiau newidiadau pellach. Eisiau offeiriaid i'r gymunded gyfan ac nid y fonedd yn unig -ansawdd gwael a methu i gyflawni eu gwaith a'u dyletswyddau e.e. addysgu. Casineb at Flowerdew oedd am ddymchwel yr abaty lleol.

5 of 10

Pam fethodd gwrthryfel Kett 1549?

Diffyg arweiniad/cynllunio: Dim cynllun i wrthryfel i ddechrau ond ysgogi gan pobl wedi meddwi yn Wymondham felly doedd dim trefniadau pellach. Dim syniad o beth roedd angen gwneud heibio cipio Norwich. Dim profiad milwrol gan y gwrthryfelwyr felly ddim gyda siawns yn erbyn byddin Northumberland. Kett yn gadael ei amddiffynfa yn Mousehold Heath ar Awst 26 gan godi amddiffynfa gwan a brysiog yn Dussingdale.

Ymateb y Llywodraeth: Cynnig pardwn ac i ymateb i rai ofynion, ac ail pardwn i bawb ag eithrio Kett gan achosi rhwyg ymysg y gwrthryfelwyr pan gwrthododd. Llywodraeth a byddin gref - milwyr o ffin yr Alban a hurfilwyr proffesiynnol a phrofiadol wedi lladd 3,000 o wrthryfelwyr a collwyd ond 250 o filwyr.

Gwrthryfel lleol/Diffyg Cefnogaeth: Gwrthryfel yn un ardal yn ynig (Dwyrain Anglia) a dim ymgais i gyd-wrthryfela gyda ardaloedd arall nac i deithio allan o Ddwyrain Anglia e.e. Llundain er mwyn bygythu'r Brenin a'r llywodraeth.

6 of 10

Achosion Gwrthryfel Wyatt 1554

Gwleidyddol: Y Briodas - tystiolaeth o senoffobia yn enwedig gan fod Philip II yn ddyn ac yn fwy o fygythiad - pobl yn poeni byddai diddordebau Sbaen yn dod yn ail i rhai Lloegr a bydd y llywodraeth yn cael ei rheoli gan dramorwyr, a byddai dylanwad Sbaen yn cryfhau petai plentyn yn cael ei eni. Cytundeb Rhagfyr 7 1553 yn nodi ni fyddai Philip yn cael y goron petai Mari'n marw ond nifer yn ofni sut bydd hwn yn cael ei weithredu. Ofni bydd ei bresendoldeb yn effeithio ar uchelgeision a chyfleon gyrfaol a roedd llys dan reolaeth Sbaenaidd yn ergyd balchder cenedlaethol.

Crefyddol: Gwrthryfelwyr yn Brotestaniaid (o Swydd Caint) ac ddim eisiau i'r wlad troi'n ol yn Gatholig - eisiau gosod Lady Jane Grey fel frenhines Protestainnaidd. The Historie of the Wyates Rebellion yn honni brif rheswm ond propoganda llywodraethol i dynnu sylw o'r briodas. Mari a Wyatt yn dibwysleisio'r ffactor - gwybod na allai dibynnu ar gymorth eang yn enw crefydd.

Economaidd: Swydd Caint dioddef o dirywiad economaidd a di-weithdra'n cynyddu ers 1551 a nifer o Cranbrook oedd wedi effeithio fwyaf yn economaidd. Dioddef yn golygu llai parod am newidiadau on fwy parod i leisio barn a gwrthryfela ond roedd prisiau'n fwy sefydlog nac yn 1549 a doedd dim argyfwng economaidd.

7 of 10

Pam fethodd Gwrthryfel Wyatt 1554?

Diffyg arweinio/cynllunio: Ond Swydd Caint wnaeth casglu cefnogaeth sef byddin o 2,500 a Sir Hereford, Dyfnaint a Sir Caerloyw yn methu felly'r gwrthsafiad yn y canolbarth a'r gorllewin yn fethiant ac yn llai o fygythiad i'r Goron. Wyatt ddim yn gweithredu ar ei gyfleon ac yn araf wrth ymateb gan rhoi amser i Mari ymateb a pharatoi e.e. aros 3 diwrnod yn Southwalk yn penderfynu'r cam nesaf. Telerau'r cytundeb wedi cyhoeddi yn gynharach na disgwylir - ddim yn barod i wrthryfela.

Diffyg cefnogaeth: Newid agwedd tuag at wrthryfeloedd yn dilyn trychinebau 1549 ac roedd prisiau'n fwy sefydlog felly dim argyfwng economaidd. Y Gadwyn Bod - pobl yn ystyried Mari fel eu arweinydd cyfreithlon ac yn ffyddlon iddi (gwrthod Lady Jane Grey) a phobl Llundain yn helpu i amddiffyn y ddinas. 

Ymateb y llywodraeth: Mari yn profi gallu gwneud penderfyniadau doeth - gwrthod cyngor ei chynghorwyr ac yn aros yn Llundain yn lle ffoi neu cyfarfod a'r gwrthryfelwyr. Rhoi araith i drigolion Llundain er mwyn sicrhau cefnogaeth a ffyddlondeb trwy dweud bod y gelyn yn hereticiaid. Cynnig pwyllgor i Wyatt i drafod eu cwynion a cynig pardwn i'r gwrthryfelwyr - hwn yn oedi nhw ac yn creu anghytuno ymysg y gwrthryfelwyr. 

8 of 10

Achosion Gwrthryfel Ieirll y Gogledd 1569

Crefyddol: Llawer o bendefigion y Gogledd yn Gatholig ac o blaid sefydlu Mari'r Alban yn frenhines, ac yn gwrthwynebu syniadau Elisabeth am Eglwys Anglicanaidd (elfen Protestannaidd). Gweld Elisabeth yn anghyfreithlon o dan yr Eglwys Gatholig (merch Anne Boleyn). 9/10 ddim yn bendefinion neu'n dirfeddiannwyr - tystiolaeth bod atgasedd mawr tuag at yr Ardrefniant.

Gwleidyddol: Elisabeth yn atal priodas Mari'r Alban a Dug Norfolk oedd wedi gadael y llys heb ganiatad (nifer yn credu i ddechrau wrthryfel), ac yn gwylltio'r llys twy orchymun fwy o gwestiynnu o Ieirll Northumberland a Westmoreland. Casineb mawr tuag at cynghorwyr Elisabeth ymysg y pendefigion - beio nhw am y dirywiad yn eu pwer a chyfoeth. Rhan fwyaf o'r gwrthryfelwyr yn llai cyfoethog na'r pendefigion (cefnogaeth eang) ac yn derbyn 16c y diwrnod am ymuno. De Spes yn optimistaidd o ganlyniad ffafriol pe bai gwrthryfel.

Personol/Economaidd: Elisabeth yn cydio ym mholisiau ei thad gan geisio leihau pwer a chyfoeth y pendefigion yn enwedig yn y Gororau e.e. Iarll Northumberland a Westmoreland. Thomas Percy (Northumberland) eisiau gweld Catholigaeth yn cael ei ail-sefydlu ac wedi dioddef o'r polisiau - colli pwer ac arian.

9 of 10

Pam fethodd Gwrthryfel Ieirll y Gogledd

Crefydd: Crefydd yn achos on yn rheswm pam fethodd hefyd - ddim yn ddigon o gymhelliant i ddenu cefnogaeth a nifer o bendefigion Catholig adnabyddus heb ymuno oherwydd ofni cosbau'r goron (colli pwer a chyfoeth). Ddim yn barod i roi risg eu bywyd. Pab i fod i gyhoeddi esgymuniad Elisabeth o'r Eglwys i ddenu cefnogaeth ond heb gyrraeth tan wedi i'r gwrthryfel cael ei ddymchwel. Nifer o Gatholigion yn cefnogi Elisabeth er ei chrefydd.

Diffyg Cefnogaeth: Heb dderbyn cymorth tramor o Phillip II gan fod Sbaen a Ffrainc yn gelynion (Mari a cysylltiad). Byddin 5-6000 yn unig a dim cefnogaeth o ardaloedd yn y de oherwydd y Ieirll ddim yn ddigon adnabyddus. Nifer wedi rhwygo rhwng ffyddlondeb i'r Ieirll lleol a'r Frenhines.

Diffyg arweiniad: Dim cynllun pendant na prif ffocws heibio ceisio rhyddhau Mari o'r carchar. Ieirll wedi cael ei orfodi i wrthryfela gan eu gwragedd. Ieirll heb cadw cysylltiad cyson a Sbaen felly ni ddanfonwyd cymorth ganddynt.

Manteision y Llywodraeth: Llywodraeth mewn sefyllfa cryfach nag yn y Bererindod Gras - symud Mari'r Alban i'r De felly gwrthryfelwyr yn bellach o'i gefnogwyr yn y gogledd. Wedi gosod mwy o bwer dros y Gogledd eisioes - Gargrave a Forster yn helpu i ddisodli'r gwrthryfelwyr a lleihau cefnogaeth.

10 of 10

Comments

No comments have yet been made

Similar History resources:

See all History resources »