I Ble'r Aeth Haul y Bore Dyfyniadau

?
  • Created by: Liz
  • Created on: 27-04-13 17:52

Dyfyniadau Haul y Bore

"Roedd rhywbeth o'i le" - H.y.B. ar lan yr afon

"Yr unig beth oedd hi eisiau'i wneud oedd i achub Chiquito" - H.y. B.

"Roedd hi eisiau marw. Marw fel Chiquito." - H.y.B.

"Roedd hi'n crynu fel ebol newydd-anedig" - H.y.B ar ol i'w thad ffeindio hi

"...roedd ganddi of. Ofn ei wynebu" - H.y.B yn clywed fod Chico ar ei ffordd

"Dydy hi byth yn rhy hwyr i ladd y Cotiau Glas...Mae Barboncito'n feddal" -H.y.B.

1 of 9

Dyfyniadau Carson

"Roedd o'n greithiau byw"

"Roedd Carson yn fawr ei balch fel milwr"

"Roedd hwn yn ddyn oedd yn eu deall [llwythau'r Indiaid]. Roedd...haearn yn ei eiriau"

"Mae'r Arlywydd a'r Gyngres yn wallgof, syr!" - Carson i Carleton

"...i ymladd anghyfiawnderau'r caethweision yn y De yr ymunodd o a'r fyddin, nid i erlid nac orfodi Indiaid i adael eu cynefin" - Carson

"Victor DIcks! Y llofrudd hwnnw!"

"Rwyt ti'n siarad hefo dy galon eto, Carson! Defnyddio'i ben y mae milwr da!" - Carleton

"Nid egluro'i hun i'r Indiaid oedd Carson am ei wneud ond ceisio cyfiawnhau ei hun"- Carleton

"Mae'r Navahos yn parchu'r Taflwr Rhaffau. Ond pan fydd o mewn Cot Las, gelyn fydd o, nid brawd" - Manuelito

2 of 9

Mwy o ddyfyniadau Carson

"Does dim sy'n gwneud i Indiad ymladd yn fwy na'r awch i fwydo'i hun a'i deulu" - Carson

"Roedd yn ymwybodol fod pob gorchymun a gai bellach yn troi ei stumog" - Carson

"teimlai Carson mae fo ei hun oedd angau, yn cripian i fyny'r dyffryn i gipio'r Navahos o'u cynefin. Y fo oedd yn gyfrifol" - Carson yn cyrraedd y Ceunant

3 of 9

Dyfyniadau Victor Dicks

"Victo Dicks! Y llofrudd hwnnw!" - Carson

"mai'r unig Indiad da oedd Indiad marw" - Victor Dicks yn cofio eiriau Sherridan

"Dim trugaredd i neb!" 

"Rhaid difa'r pla oddi ar wyneb y ddaear!"

"Roedd un peth yn sicr; byddai'r Indiad yma'n cael ei haeddiant" - Victor Dicks am Chico

"Roedd y daith yma wedi troi'n drychineb, a hynny mewn un noson, oherwydd un Indiad" - ar ol dial Chico

"Mae'r dyn yn gelwyddgi, syr!" - Carson

4 of 9

Dyfyniadau Carleton

"Trwy deg neu drwy drais, Carson"- Carleton i Carson am symud yr Indiaid

"...ymosodwch ar garlam llawn. Dim trugaredd! -ymateb Carelton i'r Indiaid yn bygwth y Ffort

"Rydych chi'n dibynnu ar fy ewyllus da i a 'nynion nes y byddwch chi ar y Bosque" - Carleton i Herrrero Grande ar ol i'r Navahos cyrraedd Ffort Defiance

5 of 9

Dyfyniadau Chico

"Roedd Geronimo wedi gweld deunydd heliwr a rhyfelwr cadarn ynddo"

"...roedd o'n gofyn i Usen fod gydag ef wrth iddo dial" - Chico ar ol clywed hanes Chiquito

"Roedd hi'n sgrech annaearol, arallfydol, i godi arswyd ar unrhyw un" - Chico'n dial

"Doedd yna ddim tan. Dim ond twll anferth yn y ddaear a chyrff a gwaed yn llanast dros y lle." - canlyniad dial Chico

"Roedd y llygaid a syllai'n ol arno'n oer, yn ddideimlad, ac yn gwbl lonydd" - ymateb Chico i gael ei ddal

"Tyrd ti a cheffyl i mi, Tanuah, ac fe gei di weld pa mor anabl ydw i!" - Chico

"Rhyw ddydd, byddai Chico'n bennaeth" - Geronimo

6 of 9

Dyfyniadau Manuelito

"Roedd Manuelito'n wr cydnerth a dim arlliw o wen ar ei wyneb"

"yn ceryddu, yn canmol, yn cymell ac yn cydymdeimlo" - H.y.B. yn cofio llais Manuelito

"Mae'r amser i ymbwyllo wedi pasio. Mae'r amser i fod yn feddal wedi pasio. Mae'r amser i rannu wedi pasio. Amser i ryfel ydy hi!" - Manuelito i Herrrero Grande

"Yma, yng Ngheunant de Chelley y bydd Manuelito byw...neu farw!"

""Nid yw'r Navahos yn gadael eu tiroedd am byth. Fe ddown yn ol!"

"Dial" sibrydodd yn ffyrnig. "Bydd Manuelito'n dial am hyn!" - Manuelito ar ol i'r 2 hen wraig lladd eu hunain

7 of 9

Dyfyniadau Herrero Grande

"Roedd gair y pennaeth yn cyfrif"

"fod doethineb yng ngeiriau Herrero Grande"

"Paid a gweld gormod o fai ar Herrero. Meddwl am ei bobl y mae o." - Geronimo i Chico ar ol i Herrero dewis ildio

8 of 9

Dyfyniadau Chiquito

"Roedd o'n faban swnllyd ond roedd ei fam wedi gwirioni arno"

"Chiquito!" - H.y.B a Chico wrth iddo ddial

"...roedd stori Chiquito wedi lledaenu trwy'r llwythau fel tan gwyllt"

9 of 9

Comments

bethjones21

Report

Mor ddiolchgar o hwn ;0 

mills1405

Report

Mae gyda fi arholiad ffyg yfory, ac mae hyn yn gwych am profi fy hunain am yr dyfyniadau. Diolch!

Similar Cymraeg resources:

See all Cymraeg resources »